Newyddion S4C

Annog ymwelwyr i ‘feddwl ddwywaith’ cyn ymweld ag unedau brys

17/07/2021
Uned Ddamweiniau

Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi annog pobl i “feddwl ddwywaith” cyn ffonio 999 ac ymweld ag adrannau brys os nad yw’r achos yn peryglu bywyd.

Daw’r galwadau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wrth iddynt rybuddio am straen ychwanegol fydd ar weithwyr ysbytai dros yr haf eleni wrth i fwy o bobl ymweld â chyrchfannau gwyliau yng Nghymru yn sgil Covid-19.

Mae swyddogion yn annog gwersylloedd gwyliau, gweithwyr twristiaeth, gwestai a busnesau lletygarwch i rannu’r neges gyda gwesteion.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn annog pobl i ffonio 111 am gymorth, a throi at wefan GIG 111 Cymru.

Mae’r rhanbarth yn gweld cynnydd mewn pobl sy’n ymweld dros wythnosau yr haf, gyda’r bwrdd iechyd yn annog y cyhoedd i gael triniaeth “ddiogel” er mwyn “lleddfu pwysau sydd ar staff meddygol”.

Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cychwynnol a Chymunedol: “Fel mae cyfyngiadau Covid-19 yn llacio a’n bod ni’n nesáu at wyliau’r ysgol, fe fydd cynnydd mawr yn y nifer o bobl yn y rhanbarth.

“Trwy gydol y pandemig Coronafeirws, rydym wedi cofleidio technoleg ddigidol a gwasanaethau rhithwir, a chyda’r rhif ffôn 111 nawr ar gael i gleifion yng ngogledd Cymru, mae yna sawl ffordd y gall pobl gysylltu i gael mynediad at y GIG yn ddiogel.

“Bydd hynny yn ei dro yn lleddfu’r pwysau ar staff gofal iechyd, gostwng amseroedd aros ac arbed adnoddau hanfodol pan fyddwn ni eu hangen fwyaf.”

“Trwy ffonio 111 byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth arbenigol a fydd ei angen arnoch, ac os bydd angen apwyntiad neu asesiad y tu allan i oriau, gellir trefnu hynny.  Os yw’n argyfwng yna dylech ffonio 999 neu fynd i’r ysbyty agosaf, ond dim ond mewn achos o argyfwng.

“Ac os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, cofiwch ddod ag o gyda chi.”

Gwyliau ‘eithriadol o brysur’

Dyweododd Jim Jones, Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru: “Rydym yn disgwyl gwyliau’r haf i fod yn eithriadol o brysur eleni, sydd i’w groesawu ac yn union beth mae’r diwydiant ei angen ar ôl amser mor heriol.  

“Tra rydym eisiau i’n hymwelwyr fwynhau ein hardal hardd, rydym hefyd eisiau iddynt fod yn ymwybodol o sut i gael help os ydynt yn mynd i drafferthion meddygol.  

“Y ffordd hawsaf a chyflymaf o dderbyn cefnogaeth feddygol yw ffonio 111 yn hytrach na mynychu adrannau achosion brys ysbytai, felly gwrandewch ar y cyngor a helpwch staff y GIG yma yng Nghymru." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.