Cymru Premier JD: Penybont yn ceisio ymestyn y bwlch ar frig y gynghrair
Saith rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau rheiny yn llechu yn yr hanner isaf.
Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae’r ceffylau blaen, Pen-y-bont eisoes wedi pasio’r targed hwnnw, a dyw’r Seintiau Newydd na Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau.
Dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r chwe chlwb yng nghanol y tabl, ac felly mae’r gemau rhwng Y Barri a Chei Connah, a’r ornest rhwng Met Caerdydd a’r Bala ddydd Sadwrn yn rhai hollbwysig yn y ras am y Chwech Uchaf.
Llansawel (11eg) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd llanciau Llansawel yn llawn hyder ar ôl rhoi crasfa o 4-0 i Aberystwyth nos Sadwrn diwethaf gan godi oddi ar waelod y tabl.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y Cochion gartref ar yr Hen Heol y tymor hwn, a bydd y rheolwr Andy Dyer yn awyddus i adeiladu ar hynny y penwythnos yma.
Dyw’r hwyliau’n sicr ddim cystal yng ngharfan Caernarfon gan fod y Cofis wedi methu ag ennill mewn pum gêm, ac wedi colli’n drwm gartref yn erbyn Pen-y-bont yn eu gornest ddiwethaf.
Ar ôl cyrraedd Ewrop dros yr haf am y tro cyntaf yn eu hanes, bydd y Caneris yn benderfynol o sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf unwaith eto’r tymor hwn.
Zack Clarke oedd yr arwr i’r Cofis yn y gêm gyfatebol yn erbyn Llansawel ym mis Medi, yn sgorio hatric wrth i Gaernarfon ennill 3-2 ar yr Oval.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ➖❌❌❌✅
Caernarfon: ✅❌❌➖❌
Pen-y-bont (1af) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon y tymor yma, ac ar ôl taro pump yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn diwethaf mae tîm Rhys Griffiths bellach pedwar pwynt yn glir ar frig y tabl.
Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths fwy neu lai yn saff o’u lle eleni ar ôl colli dim ond un o’u 21 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).
Mae’r Fflint wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, ac yn un o’r tri chlwb sy’n brwydro i osgoi’r cwymp tua gwaelod y tabl.
Hon fydd taith gyntaf Y Fflint i Ben-y-bont ers mis Awst 2022, pan enillodd bechgyn Bryntirion o 2-1 diolch i gôl fuddugol y chwaraewr-reolwr Rhys Griffiths, sef ei gôl ddiwethaf yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅➖➖✅
Y Fflint: ͏✅➖❌❌❌
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1854879588976882041
Y Barri (5ed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd hon yn gêm dyngedfennol yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf, gan y byddai buddugoliaeth i Gei Connah yn eu codi uwchben eu gwrthwynebwyr, Y Barri.
Mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y 5ed safle ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21.
Ar ôl dechrau digon araf i’r ymgyrch mae’r canlyniadau’n gwella’n raddol i Gei Connah sydd ond wedi colli un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, a honno yn y munudau olaf yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Y Barri oedd yn dathlu wedi’r gêm gyfatebol ar Gae-y-Castell ym mis Medi gyda phrif sgoriwr y gynghrair, Ollie Hulbert yn rhwydo ddwywaith i ennill y gêm i’r Dreigiau (Cei 1-2 Barr).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅✅✅❌
Cei Connah: ͏➖➖✅❌✅
Met Caerdydd (4ydd) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Mae hon yn addo i fod yn frwydr allweddol yn ras am y Chwech Uchaf hefyd, wrth i Met Caerdydd geisio torri saith pwynt yn glir o’r clwb sy’n 7fed, sef Y Bala.
Bydd Met Caerdydd yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, ond ar ôl ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf bydd angen codi’r safon os am gyrraedd y nod.
Mae’r Bala wedi sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl rhediad o chwe gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 5, colli 1).
Mae dros hanner gemau cynghrair Y Bala wedi gorffen yn gyfartal y tymor hwn (8/15), ond bydd angen buddugoliaethau ar griw Colin Caton os am godi i’r hanner uchaf cyn yr hollt.
Eliot Evans rwydodd unig gôl y gêm i’r myfyrwyr yn y gêm gyfatebol ar Faes Tegid ym mis Medi, ac mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb wedi bod yn rhai tynn ac agos gyda dim ond 13 o goliau wedi eu sgorio yn y 12 ornest ddiwethaf rhwng y timau.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌❌➖✅❌
Y Bala: ❌➖➖➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru