Galwad ar i enillydd ras y Ceidwadwyr roi sylw i ddyfodol datganoli
02/11/2024
Fe ddylai dyfodol datganoli gael sylw gan bwy bynnag fydd yn ennill ras arweinyddol y Blaid Geidwadol, yn ôl rhai Ceidwadwyr Cymreig.
Fe ddaw wrth i’r blaid ethol eu harweinydd newydd - Kemi Badenoch neu Robert Jenrick - ddydd Sadwrn.
Tros y misoedd diwethaf mae arweinydd y blaid yn y bae wedi bod yn galw am drafodaeth agored ar ddyfodol y Senedd.
“Dwi’n credu mewn cael gwared ar ddatganoli yn bersonol. Dyw e ddim wedi bod yn gweithio, ni di cal e ers dros ugain mlynedd rŵan ble mae pawb yng Nghymru yn gweld nad yw e’n gweithio,” meddai’r Cynghorydd Calum Davies sy'n cynryhcioli ward Radur a Phentre-Poeth yng Nghaerdydd.
“Dwi’n gwybod bod yna aelodau Ceidwadol yng Nghymru ddim yn hoffi datganoli ac ma rhaid i ymgeiswyr arweinyddol y blaid ennill pleidlais nhw, felly dyna’r ffordd i fynd dwi’n meddwl.”
Dyma benderfyniad sydd yn nwylo rhyw 170,000 o aelodau. Ond mae’r BBC yn deall fod y nifer sydd wedi pleidleisio yn isel.
Mae Kemi Badenoch eisiau adfer ymddiriedaeth yn ei phlaid yn hytrarch na manylu ar bolisi, a dyna ei phrif neges. Mae hi'n ymgeisydd sy’n siarad yn blaen, ac mae hynny wedi taflu ambell gysgod tros ei hymgyrch.
Yn ei ymgyrch dros y misoedd diwethaf, mae Robert Jenrick wedi canolbwyntio ar fewnfudo a gadael y Comisiwn Hawliau Dynol Ewropeaidd.
Mae'n ymgyrch sy' di gweld sawl tro annisgwyl, gyda James Cleverley - yn ffefryn gan rai - yn syrthio o'r ras yn gynnar.
'Methu neud penderfyniad'
Ond rhybuddio i beidio â gwyro’n ormodol yw neges rhai.
“I ddweud y gwirionedd, fi methu neud penderfyniad. Ac felly, dwi ddim wedi pleidleisio. Odd e’n amhosib i fi ddewis rhwng y ddau,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies sy'n cynrychioli ward Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin ym Mhowys.
“Dwi’n sicr yn meddwl mae angen bod yn y canol i ennill etholiadau. Dwi’n gwbod mae'n bwysig i apelio i bobl sy 'di pleidleisio dros Reform ond rhaid i ni geisio apelio i bawb yn y wlad yma.”
Wedi crasfa hanesyddol y Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol, does gan y blaid ddim un Aelod Seneddol yng Nghymru.
Gyda mwyafrif Llafur yn fawr, mae'r dasg yn fawr i'r arweinydd newydd, yn ôl Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru.
“Os yw Kemi Badenoch yn ennill, yn sicr fe gewn ni wrthblaid ymosodol iawn, iawn, ond pu’n ai ydy honno’n wrthblaid sy’n gallu ennill Etholiad Cyffredinol, mae hynny’n gwestiwn arall.”
Mae’n debyg mai Kemi Badenoch yw’r ffefryn i ennill. Fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol fore Sadwrn.