Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru yn wynebu honiadau newydd o agweddau rhywiaethol

01/11/2024
Menywod Cymru Rygbi

Mae Undeb Rygbi Cymru yn wynebu honiadau o’r newydd yn ymwneud ag anghydraddoldeb ac agweddau rhywiaethol – a hynny llai ‘na blwyddyn wedi adroddiad damniol i’r sefydliad.

Daw wedi i’r undeb bygwth atal tîm menywod Cymru cystadlu yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf pe na bai iddyn nhw arwyddo cytundebau newydd, yn ôl rhai honiadau.

Y gred yw mai cyflog oedd y prif reswm dros yr anghytuno.

Fe gyhoeddodd capten Cymru, Hannah Jones bod chwaraewyr wedi dod i gytundeb ag Undeb Rygbi Cymru ym mis Medi, gan ddweud fod pawb yn “hapus gydag ein contractau.” 

Ond mae papur newydd The Telegraph bellach wedi adrodd fod chwaraewyr wedi wynebu cael eu hatal rhag cymryd rhan yn rhai o’r prif bencampwriaethau onibai eu bod nhw'n cytuno i delerau’r undeb.

Iechyd meddwl

Cafodd chwaraewyr eu rhybuddio ym mis Awst y bydd yn rhaid iddyn nhw arwyddo eu contractau o fewn tair awr neu na fyddan nhw’n cael cymryd rhan ym mhencampwriaeth WXV2 yn Ne Affrica neu Gwpan Rygbi'r Byd, medd y Telegraph. 

Roedd chwaraewyr wedi troi at undeb Cymdeithas Rygbi’r Merched ym mis Ionawr i’w cynrychioli. 

Roeddent yn delio â materion yn ymwneud â thâl a pholisïau mamolaeth.

Fe wnaeth y gymdeithas gadarnhau wrth y Telegraph eu bod wedi helpu chwaraewyr gydag honiadau o’r fath. 

Dywedodd roedd y “merched mewn darnau” gyda'r trafodaethau yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi 37 contract llawn amser i’r menywod yn ddiweddarach mis Medi. 

Adolygiad

Dywedodd prif swyddog gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, fod bwrdd y corff llywodraethu wedi cael gwybod gan y chwaraewyr bod ganddyn nhw bryderon am y broses o drafod cytundebau ym mis Awst. 

Dywedodd bod yr Undeb bellach yn cynnal adolygiad i’r proses hwnnw – ac mae hynny wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas Rygbi’r Merched. 

Roedd tîm y menywod wedi arwyddo’r contractau proffesiynol cyntaf yn 2022.  Fe ddaeth y tîm yn drydydd yn y Chwe Gwlad y flwyddyn honno ac eto yn 2023. 

Ymddiswyddodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips ym mis Ionawr 2023 yn dilyn rhaglen BBC Cymru oedd yn ymwneud â honiadau am agweddau rhywiaethol a misogynistaidd yn yr undeb.  

Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol a ddaeth i'r casgliad fod agweddau o’r sefydliad yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.