Newyddion S4C

Cyhoeddi enwau dau fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

A40 ger Llanymddyfri

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enwau'r ddau ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Sir Gâr dros y penwythnos. 

Roedd Rhodie Thackwray, 56 a Jack Agius, 29 yn teithio ar feic modur pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 19:30 ar yr A40 i'r de o Lanymddyfri ddydd Sadwrn. 

Mae teuluoedd y dynion yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion a allai fod wedi gweld y beic modur Honda coch yn teithio drwy Lanymddyfri ychydig cyn y gwrthdrawiad.

Mae'r llu yn annog y cyhoedd i gysylltu â nhw trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 317 o 26 Hydref.

Bu farw tri pherson mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â beiciau modur yn ardal Llanymddyfri dros y penwythnos.

Bu farw un person arall mewn gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen du a beic modur KTM du yn y sir ddydd Sul.

Roedd y gwrthdrawiad hwnnw ar ffordd yr A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri tua 10:30.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.