Newyddion S4C

Arestio dyn 63 oed mewn cysylltiad â lladrad caws Cymreig gwerthfawr

31/10/2024
Caws Hafod

Mae dyn 63 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â lladrad o 22 o dunelli o gaws gwerthfawr, oedd yn cynnwys caws o Gymru.

Roedd caws Hafod o Langybi ger Llanbedr Pont Steffan ymhlith 22 tunnell o gaws gwerth £300,000 gafodd ei ddwyn o siop Neal’s Yard Dairy yn Southwark.

Cafodd mwy na 22 tunnell o dri caws cheddar crefftus eu cymryd, gan gynnwys Hafod Welsh, Westcombe, a Pitchfork, sydd i gyd wedi ennill gwobrau, ac sydd â gwerth ariannol uchel.

Fe gafodd perchnogion y siop eu twyllo i feddwl fod cyfanwerthwyr eisiau prynu'r 950 o ddarnau mawr o gaws cyn sylweddoli bod y cwmni'n un ffug.

Ddydd Iau, fe wnaeth Heddlu’r Met arestio dyn ar amheuaeth o dwyll a thrin nwyddau wedi eu dwyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu bod y dyn wedi ei holi mewn gorsaf yn ne Llundain, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.

Mae Neal's Yard Dairy yn gwerthu Hafod Welsh am £12.90 am ddarn 300g, tra bod Westcombe yn costio £7.15 am 250g a Pitchfork yn £11 am 250g.

Dywedodd Neal’s Yard eu bod wedi talu’r cynhyrchwyr caws er mwyn iddyn nhw beidio gorfod talu’r gost o’r “ergyd ariannol sylweddol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.