Newyddion S4C

Dyn o Fae Cinmel yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes yn y Rhyl

29/10/2024
Llofruddiaeth Y Rhyl - blodau

Mae dyn 33 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o lofruddio dynes 69 oed yn y Rhyl.  

Mae Dean Mark Albert Mears o Fae Cinmel, Sir Conwy wedi ei gyhuddo o lofruddio Catherine Flynn ddydd Iau diwethaf ac o fwrgleriaeth mewn tŷ ar Ffordd Cefndy yn y dref.  

Ymddangosodd yn y llys trwy gyfrwng fideo o garchar y Berwyn, Wrecsam a chafodd ei gadw yn y ddalfa wedi'r gwrandawiad. 

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands y bydd angen iddo gyflwyno ple fis Chwefror. 

Cafodd 29 Ebrill 2025 ei glustnodi fel dyddiad ar gyfer yr achos llys. 

Ni chafodd unrhyw fanylion am union amgylchiadau'r achos eu nodi

Mae blodau wedi eu gadael y tu allan i'r tŷ ar Ffordd Cefndy yn y Rhyl.

Mewn un teyrnged ymhlith y blodau, cafodd Catherine Flynn ei disgrifio fel  "dynes hyfryd, a fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".  


 

     

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.