Amy Dowden i fethu sioe Strictly Come Dancing
Ni fydd Amy Dowden yn ymddangos yn sioe Strictly Come Dancing nos Sadwrn.
Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty mewn ambiwlans yn ystod rhaglen y sioe y penwythnos hwn.
Lauren Oakley fydd yn cymryd ei lle ar y rhaglen y penwythnos hwn.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod Amy Dowden yn teimlo dipyn gwell erbyn hyn a'u bod yn "obeithiol y gall hi ddychwelyd i'r sioe yr wythnos nesaf."
Roedd y Gymraes 34 oed o Gaerffili yn absennol o'r rhaglen ganlyniadau a gafodd ei darlledu nos Sul, wedi iddi gael ei tharo'n wael gefn llwyfan yn ystod y brif raglen nos Sadwrn.
Cafodd ei chludo o stiwdio Elstree yn Llundain i Ysbyty Barnet.
Mae partner Amy Dowden ar Strictly, JB Gill o'r grŵp JLS wedi diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth.
Ail ymunodd Amy Dowden â Strictly eleni ar ôl iddi fethu â chystadlu y llynedd am ei bod yn cael triniaeth ar gyfer canser y fron.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan ddydd Sul: “Roedd Amy yn teimlo'n anhwylus, ac felly cafodd ambiwlans ei alw, fel cam gofalus.
“Mae hi bellach yn teimlo dipyn gwell, ac mae hi eisiau diolch i deulu Strictly am eu cariad.
“Ry'n ni'n galw ar bobl i barchu preifatrwydd Amy gyda materion yn ymwneud â'i hiechyd."