Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 'hyfryd' yn Y Rhyl
Mae dyn 33 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno fore Llun wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yn y Rhyl.
Cafodd Dean Mark Albert Mears o Fae Cinmel, Sir Conwy ei gadw yn y ddalfa.
Mae e wedi ei gyhuddo o lofruddio Catherine Flynn ddydd Iau diwethaf ac o fwrgleriaeth mewn tŷ ar Ffordd Cefndy yn y dref.
Bu farw'r wraig 69 oed wedi iddi gael ei rhuthro i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Bydd Dean Mears yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Yn y gwrandawiad byr fore Llun, siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r cartref ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl nos Iau.
Mae blodau bellach wedi eu gadael y tu allan i'r tŷ.
Mewn un teyrnged ymhlith y blodau, cafodd ei disgrifio fel "dynes hyfryd, a fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".