Gobaith i groesawu ymwelwyr i Wersyll Glan-llyn unwaith eto

Gobaith i groesawu ymwelwyr i Wersyll Glan-llyn unwaith eto
Fel rhan o’i gyhoeddiadau llacio ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd y rheoliadau yn newid o ran canolfannau preswyl.
Golyga hyn, dros wyliau’r haf, y caiff hyd at 30 o blant ar un adeg fynd i ganolfannau preswyl, fel sefydliadau’r Urdd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, roedd cyfarwyddwr gwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Huw Antur, yn croesawu'r penderfyniad.
"Cyn y cyhoeddiad ddoe, doedd 'na ddim sicrwydd," eglurodd.
"Mae 'di bod yn gyfnod pryderus ofnadwy, ond o leiaf 'da ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir rŵan."
Llun: Urdd Gobaith Cymru