Miloedd o redwyr yn cwblhau Marathon Eryri
Mae miloedd o redwyr wedi cwblhau Marathon Eryri ddydd Sadwrn.
Yn ôl y trefnwyr, roedd 2,800 o redwyr wedi cofrestru ar gyfer y marathon sy’n cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf heriol yn y byd.
Dyma'r 40fed tro i'r marathon gael ei chynnal.
Roedd y rhedwyr yn cychwyn yn Llanberis cyn ymdroelli o amgylch Yr Wyddfa drwy Nant Peris, Nant Gwynant, Beddgelert, Rhyd-ddu, Waunfawr ac yn ôl i Lanberis.
Andrew Davies o’r Drenewydd enillodd ras y dynion mewn amser o 2:28:41.
Mae Davies wedi cynrychioli Cymru a Phrydain a Chymru yn y marathon, gan gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 2022 a Gemau’r Gymanwlad 2018.
Daeth ei unig ymddangosiad blaenorol ym Marathon Eryri 2011 lle ddaeth yn 4ydd.
Louise Flynn o Gaerdydd ddaeth yn gyntaf yn ras y menywod mewn amser o 2:59:23.
Fe ddaeth hi’n bedwerydd y llynedd.