Newyddion S4C

Damwain Llanbrynmair: Gohirio cau rhan o'r A470 tan y flwyddyn newydd

25/10/2024
A470 Talerddig (Traffic Wales)

Fe fydd y gwaith ffordd ar yr A470 yn Nhalerddig oedd i fod i ddechrau yr wythnos nesaf yn cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe gafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn y digwyddiad ar y rheilffordd nos Lun ger Llanbrynmair. 

Bu farw Tudor Evans ar y trên a oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth. 

Cafodd 11 o bobl eraill eu hanafu yn y gwrthdrawiad, gyda phedwar arall wedi eu hanafu'n ddifrifol.

Roedd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach i fod i gael ei chau o 31 Hydref tan 20 Rhagfyr. 

Mae'r gwaith trwsio yn ymwneud â'r wal sy'n cynnal y ffordd, wedi iddi ddisgyn ym mis Hydref y llynedd gan orfodi cau'r ffordd ar frys. 

Fe fydd goleuadau traffig yn parhau ar y ffordd am weddill y flwyddyn gydag un lôn ar gau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae fy meddyliau gyda phawb a effeithiwyd gan y digwyddiad ar y rheilffordd, ac mae fy nghydymdeimlad gyda theulu'r dyn a gollodd ei fywyd.

"Gohirio'r gwaith yn Nhalerddig tan y Flwyddyn Newydd yw'r peth iawn i'w wneud ar hyn o bryd i roi amser i'r gymuned ddod i delerau â'r digwyddiadau trist.  Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, byddai dechrau'r gwaith yr wythnos nesaf wedi dod ag ansicrwydd ar adeg anodd. "

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.