Anhwylderau bwyta: Gwobr Pride of Britain i fenyw o'r de am helpu eraill
Mae menyw o’r de sy’n defnyddio ei phrofiad o fyw ag anhwylder bwyta er mwyn helpu eraill wedi cael ei hanrhydeddu yn ystod gwobrau Pride of Britain nos Iau.
Fe gafodd Molly Leonard, 26 oed, ei chyflwyno gyda gwobr The King’s Trust Young Achiever gan ei bod wedi helpu pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
A hithau wedi byw gydag anorecsia ers iddi fod yn 15 oed, mae creu gwaith crefft wedi bod yn gysur i Ms Leonard erioed, a hynny wedi i’w mam-gu ddysgu iddi wau yn ferch ifanc.
Roedd treulio cyfnodau hir yn yr ysbyty – yn aml yn bell o’i chartref – dros gyfnod o chwe blynedd wedi profi yn heriol iddi.
Ond roedd gwneud gwaith crefft o’i gwely yn yr ysbyty wedi helpu iddi ddod o hyd i bwrpas yn ei bywyd, meddai.
“Doeddwn i ddim yn gallu gweld dyfodol i’m hunain, doeddwn i methu gweld fy hunain yn symud heibio’r anhwylder bwyta.
“Tua'r adeg hynny roeddwn i bron a gorfod derbyn gofal lliniarol. Roedd y King’s Trust wedi rhoi gobaith i mi.
“Wnes i ddechrau cyflawni pethau bychain, ac yna fe dyfodd y pethau bach yn fwy a dwi nawr lle ydw i. Mae’n wallgof.”
'Tu hwnt i'r dychymyg'
Mae Ms Leonard bellach yn cynnal sesiynau crefft mewn ysgolion, gwasanaethau ieuenctid ac yn ei chymuned.
Mae’n helpu pobl eraill i droi at waith crefft er lles eu hiechyd meddwl.
Roedd gweld effaith cadarnhaol ei sesiynau ar bobl yn yr ysbyty wedi ei hysbrydoli i barhau gyda’i hymdrechion a’i droi i mewn i fusnes.
Gyda chymorth ei therapydd fe wnaeth Ms Leonard gysylltu gyda’r King’s Trust o’i gwely yn yr ysbyty, gan ennill cyllid a chymorth i'w chynllun.
“Doedd gen i ddim swydd nag arian, jyst syniad a brwdfrydedd i ddianc… Roeddwn i angen newid yn fy mywyd.”
“Mae’n anrhydedd i gael fy enwebu ar gyfer gwobr Pride of Britain, heb sôn am ennill un.
“Mae’n bell y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn i fod wedi ei dychmygu.”
Llun: Pride of Britain