Clydach: Yr heddlu'n ymateb i 'ddigwyddiad difrifol'
Roedd llwybr cefn ym mhentref Clydach ar gau nos Iau wrth i Heddlu De Cymru ymateb i "ddigwyddiad difrifol" yno.
Cafodd teithwyr eu cynghori i osgoi'r Stryd Fawr am gyfnod tra roedd ymchwiliad yr heddlu'n cael ei gynnal.
Cafodd cordon ei osod ar hyd rhan o'r pentref, ac roedd presenoldeb amlwg yr heddlu yn yr ardal.
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Rydym yn lleoliad digwyddiad difrifol ar y Stryd Fawr, Clydach, Abertawe.
"Ar hyn o bryd mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad o Heol Sant Ioan ar y Stryd Fawr.
"Gall cerbydau droi i'r chwith i fyny Heol Twynybedw ac yna i lawr Stryd Sybil. Cynghorir modurwyr i osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau amgen lle bo modd."
Cafodd y ffordd ei hailagor yn ddiweddarach.