'Camgymeriad difrifol': Y BBC yn ymchwilio i ddarllediad sylw hiliol yn y Baftas
Mae Tim Davie wedi gorchymyn ymchwiliad ar frys yn dilyn “camgymeriad difrifol” a wnaeth arwain at sylw hiliol yn cael ei ddarlledu gan y BBC yn ystod y Baftas nos Sul.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC bellach wedi dweud wrth Uned Cwynion Gweithredol y sefydliad bod angen cynnal ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd ar unwaith.
Roedd John Davidson, ymgyrchydd sydd yn byw gyda chyflwr Tourette's, yn bresennol yn y seremoni er mwyn dathlu’r ffilm I Swear.
Cafodd y ffilm ei seilio ar ei fywyd wrth iddo godi ymwybyddiaeth am y cyflwr, ac roedd yn gynhyrchydd gweithredol ar y ffilm hefyd.
Mae Mr Davidson yn byw gyda coprolalia fel rhan o’i gyflwr, sydd yn golygu ei fod yn gwneud sylwadau sarhaus gan gynnwys rhegfeydd anfwriadol.
Cafodd ‘tic’ a oedd yn hiliol ei glywed yn ystod y seremoni wobrwyo, tra'r roedd yr actorion Michael B Jordan a Delroy Lindo yn cyflwyno gwobr.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod y gorfforaeth wedi bod yn “adolygu’r hyn ddigwyddodd” yn ystod y Baftas nos Sul.
“Roedd hwn yn gamgymeriad difrifol ac mae’r cyfarwyddwr cyffredinol wedi gwneud gorchymyn i’r Uned Cwynion Gweithredol er mwyn cynnal ymchwiliad ar frys a darparu esboniad lawn i’r cwynion.”
Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon senedd San Steffan hefyd wedi ysgrifennu at Mr Davie ddydd Mercher er mwyn cael “esboniad,” a hynny gan ystyried bod cyfnod o ddwy awr rhwng y seremoni a’r darllediad.
'Gweithio'n galetach'
Mae John Davidson wedi dweud ei fod yn teimlo y dylai’r BBC fod wedi “gweithio’n galetach” er mwyn sicrhau nad oedd ei sylw wedi cael ei ddarlledu.
“Roedd Bafta wedi ein gwneud i gyd yn ymwybodol y byddai unrhyw regfeydd yn cael eu golygu allan o’r darllediad”, meddai.
Fe gafodd y Baftas eu cynnal yn y Royal Festival Hall yn Llundain ychydig o oriau cyn i’r seremoni gael ei darlledu ar y BBC nos Sul.
Mae’r BBC eisoes wedi ymddiheuro am beidio â golygu’r sylw hiliol er mwyn sicrhau nad oedd yn cael ei glywed yn ystod y darllediad.
Maen nhw bellach wedi ei olygu ar BBC iPlayer.
Fe wnaeth Mr Davidson benderfynu gadael y seremoni wobrwyo wedi iddo sylweddoli bod ei sylwadau yn cael eu clywed o’r llwyfan.
“Fel bob tro, teimlais don o gywilydd a phryder yn taro fi ar unwaith," meddai mewn cyfweliad gyda'r cylchgrawn Americanaidd Variety.
"Rydych chi eisiau'r llawr i eich llyncu. Roeddwn i eisiau diflannu.”
Fe enillodd I Swear dair gwobr Bafta nos Sul. Roedd Robert Aramayo yn fuddugol yng nghategori yr actor gorau a’r wobr seren i’w gwylio.
Fe wnaeth y Gymraes, Lauren Evans, ennill Bafta am y castio gorau am ei gwaith castio ar y ffilm.
