Cyhoeddi lleoliad maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Cyhoeddi lleoliad maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ar safle yn ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol y ddinas ym mis Awst 2025.
Dywedodd yr Eisteddfod y bydd yr ŵyl yn dychwelyd i dir amaethyddol y flwyddyn nesaf “gyda’r Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B gyfochrog â’i gilydd a hynny mewn ardal sy’n gyfleus ar gyfer teithwyr o bob cyfeiriad”.
Roedd rhai o gynghorwyr y sir wedi lleisio eu rhwystredigaeth yn gynharach y mis hwn gan eu bod wedi disgwyl cyhoeddiad am union leoliad y Brifwyl yn gynt.
Roedd llawer yn yr ardal yn disgwyl i dir ar ystâd Erddig ar ochr orllewinol y ddinas gael ei ddewis fel safle, ond bellach mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi mai ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol Wrecsam sydd wedi ei ddewis.
'Maes braf'
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts: “Bydd hwn yn faes braf ac wrth gyhoeddi’r lleoliad, mae’r elfen nesaf o’r gwaith yn cychwyn sef creu nifer o bartneriaethau lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau ein bod ni’n dilyn llwyddiant Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, gan roi lle amlwg i faterion amgylcheddol ym mhob un o’n trafodaethau.
“Mae’r gwaith o lunio’r rhaglenni artistig yn parhau, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymuno â’r tîm ac sy’n rhan o’r trafodaethau hyn.
"Diolch hefyd i’n holl wirfoddolwyr ym mhob cwr o’r sir sydd wrthi’n ddygn yn codi arian ac ymwybyddiaeth. Mae’r gwaith yn mynd yn arbennig o dda, ac mae brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn y tîm yn gwbl wych.
“Mae nifer o gyhoeddiadau a cherrig milltir ar y gorwel rhwng nawr a’r Nadolig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am bob elfen o’r gwaith paratoi dros y misoedd nesaf.
"Mae croeso hefyd i unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â’r tîm – dyw hi ddim yn rhy hwyr o gwbl. Ewch i wefan yr Eisteddfod i gofrestru a dewch i helpu, cefnogi a chymdeithasu gyda ni!”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae’n bleser cadarnhau mai Is-y-coed yw lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.
“Mae’r Eisteddfod yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei gefnogi a’i fwynhau drwy’r gweithgareddau a’r codi arian yn ystod y cyfnod paratoi, yn ogystal â’r ŵyl ei hun.
“Dyma’r cyfle perffaith i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi neu ddechrau dysgu ychydig ar ein hiaith cyn i’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf o’i bath yn Ewrop gyrraedd ardal Is-y-coed yma yn Wrecsam fis Awst nesaf.
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal rhwng 2-9 Awst y flwyddyn nesaf.