Darganfod 'gwerth dros £1m' o blanhigion canabis mewn hen gartref gofal
Mae ffatri gyffuriau oedd yn cynnwys "dros £1m" o blanhigion canabis wedi’i darganfod mewn hen gartref gofal yn Rhisga.
Daeth swyddogion Heddlu Gwent o hyd i'r ffatri ar Ffordd Dan y Graig ddydd Gwener 9 Gorffennaf, gan ddarganfod 1,389 o blanhigion canabis mewn 21 ystafell yr hen gartref gofal.
Cafodd dyn yn ei 60au o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o gynhyrchu cyffur dosbarth gradd B ac mae wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae’r planhigion canabis wedi’u hatafaelu a’u dinistrio eisoes ac mae ymholiadau’n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Boucher o Heddlu Gwent: "Mae hyn yn amharu'n sylweddol ar ymgyrch tyfu canabis ar raddfa fawr sydd, yn ein barn ni, â gwerth stryd o fwy nag £1m.
"Mae'r cyflenwad o gyffuriau rheoledig yn difetha ein cymunedau a byddwn yn parhau i gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n ymwneud â delio cyffuriau,” ychwanegodd.
"Mae gwybodaeth gan y gymuned yn hanfodol yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Daliwch ati i ddweud wrthym am eich pryderon, mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i darfu ar droseddau cyfundrefnol ac atal gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn ein cymunedau."