Newyddion S4C

Galw am fwy o gefnogaeth i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein

22/10/2024

Galw am fwy o gefnogaeth i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein

Y ddyfais ni'n defnyddio'n ddyddiol, yn hen neu'n ifanc yn treulio oriau yn syllu a sgrolio ar y gwefannau cymdeithasol.
 
Ond mae'r cynnwys yn gallu dylanwadu'n ddrwg ar blant gyda bechgyn yn cael eu targedu'n benodol.
 
"Un enghraifft yw Andrew Tate yn dweud "women shouldn't do this!"
 
"Dweud bod bechgyn yn fwy naturiol yn y gym a dim merched."
 
Beth mae hwnna'n wneud i ti feddwl?
 
"Mae ddim yn reit achos mae merched yn gallu gwneud be maen nhw moyn.
 
"Os maen nhw eisiau bod fel bechgyn, maen nhw'n gallu."
 
"Fel motivational, fel Dave Goggins ond hefyd pobl fel Andrew Tate sydd ddim yn hoffi merched."
 
Mae staff Ysgol Llangynwyd wedi sefydlu pwyllgor ar ôl sylwi bod iaith annerbyniol tuag ferched yn cael ei defnyddio.
 
"Oedd e'n frawychus bod nhw'n meddwl am fenywod mewn ffordd negyddol.
 
"Maen nhw mor ifanc, dydyn nhw ddim yn sylweddoli ar eu hiaith nhw.
 
"Dyna pam ni 'di gorfod chwilio am y wybodaeth yma ein hunain."
 
"O ran y gefnogaeth o lefel y Llywodraeth neu'r byd addysg does dim digon o adnoddau'n cael eu rhannu i ysgolion.
 
"Bach iawn yw'r cyfathrebu neu hyfforddiant sydd i athrawon.
 
"Ni'n neud ein darn ni fel ni'n gallu o ddydd i ddydd i daclo meddylfryd dysgwyr Llan."
 
Adleisio'r galwadau hyn mae Swyddfa Comisiynydd Plant.
 
"Mae angen i'r Llywodraeth wneud yn siŵr bod gan athrawon ac ysgolion yr arfau maen nhw angen i drafod materion sy'n symud yn gyflym."
 
Bydd mwy o bobl ifanc yn defnyddio ffonau symudol yn eu harddegau ac mae'n dod a'u peryglon hefyd.
 
Sut mae mynd i'r afael a sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel ar-lein?
 
"Trafod y pethau mewn dosbarthiadau a bod y plant yn gallu son a holi cwestiynau maen nhw ddim yn gyfforddus i ofyn i athro gan wybod gewn nhw cymorth
a'r atebion cywir wrth yr heddlu."
 
Bu'n haf heriol i'r heriol gyda golygfeydd fel y rhain yn graith ar gymunedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
 
Chwaraeodd y gwefannau cymdeithasol rhan amlwg yn corddi casineb.
 
"Sadly, 13% of those investigated by MI5 for UK terrorism are under 18."
 
Dyma rybudd wedyn yn y dyddiau diwethaf gan bennaeth cudd-wybodaeth MI5, cynnydd aruthrol yn y rhai dan 18 sydd wedi'u dylanwadu gan gynnwys terfysgol ar-lein.
 
Yn ôl y Llywodraeth, mae'n bwysig cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein.
 
Mae dysgu am hynny yn rhan allweddol o'r cwricwlwm newydd.
 
Hefyd, mae adnoddau ar gael i athrawon, disgyblion a rhieni ar sut i ddelio a dylanwadau niweidiol ar-lein.
 
Wrth i'r ysgol hon fynd i'r afael a'r sefyllfa mae 'na alw am fwy o arweiniad ac adnoddau i arfogi ysgolion eraill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.