Merch 12 oed wedi marw yn Sir Benfro
Bu farw merch 12 oed ddydd Sadwrn ar ôl i griwiau ambiwlans cael eu galw i dŷ yn Sir Benfro.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod y llu wedi cael eu galw i gynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans gyda digwyddiad mewn tŷ yn Aberdaugleddau am 10:25.
Bu farw merch 12 oed yn ddiweddarach.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Ychwanegodd y llu bod eu meddyliau gyda'i theulu a bod swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth iddynt.
Mae swyddogion hefyd wedi bod ar gael i gynnig cymorth i ffrindiau'r ferch yn yr ysgol lle'r oedd hi'n ddisgybl.