Gyrrwr beic cwad gydag 'anafiadau difrifol' ar ôl gwrthdrawiad yng Nghil-y-coed
Mae dyn yn ei bumdegau wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad beic cwad yng Nghil-y-coed.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad ar Ffordd Casnewydd, ger tafarn The Measure Inn, am 13.10 ddydd Gwener.
Fe wnaeth beic cwad coch a gwyn wrthdaro gyda wal a char wedi’i barcio, yn ôl y llu.
Cafodd reidiwr y beic cwad, dyn yn ei bumdegau, ei dywys i’r ysbyty gydag anafiadau ‘difrifol’.
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.