Newyddion S4C

Corff Alex Salmond wedi ei hedfan yn ôl i'r Alban

18/10/2024
Corff Alex Salmond yn dychwelyd i'r Alban

Mae awyren oedd yn cludo corff Alex Salmond wedi dychwelyd i'r Alban lle'r oedd ei deulu'n aros gerllaw iddi lanio.

Bu farw Mr Salmond o drawiad ar y galon mewn cynhadledd yng Ngogledd Macedonia y penwythnos diwethaf.

Fe wnaeth yr awyren a gafodd ei thalu am gludo corff Mr Salmond gan y dyn busnes Syr Tom Hunter lanio ym maes awyr Aberdeen brynhawn ddydd Gwener.

Roedd ei deulu ac arweinydd Plaid Alba, Kenny MacAskill yn aros yn y maes awyr cyn i'r corff gael ei hebrwng i ffwrdd mewn hers.

Mae cynlluniau mewn lle ar gyfer angladd teuluol yn ogystal â gwasanaeth goffa cyhoeddus.

Fe wnaeth cyn Aelod Seneddol yr SNP a chadeirydd Plaid Alba, Tasmina Ahmed-Sheikh orchuddio arch Mr Salmond gyda baner yr Alban wrth iddi gael ei thynnu o fan ar y tarmac yng Ngogledd Macedonia cyn yr hediad i'r Alban.

Image
Corff Alex Salmond yn dychwelyd i'r Alban
Arch Alex Salmond yn dychwelyd i'r Alban. Llun: PA

'Cysur'

Dywedodd Syr Tom Hunter ddydd Iau ei fod yn bwysig i gorff Mr Salmond dychwelyd i'w deulu.

“Er ei fod ef a minnau’n anghytuno ar rai o’i uchelgeisiau, cysegrodd Alex Salmond ei fywyd i’r Alban a phobl yr Alban," meddai,

"Roedd yn bwysig iawn i'w deulu ac roedd yn haeddu urddas a phreifatrwydd wrth ddychwelyd i gartref ei enedigaeth."

Dywedodd Mr MacAskill, a gamodd i mewn ar ôl marwolaeth Mr Salmond i gymryd yr awenau fel arweinydd dros dro Plaid Alba bod teulu Mr Salmond yn ddiolchgar am y gefnogaeth maen nhw wedi ei dderbyn.

“Mae’r teulu’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan sicrhau awyren breifat i ganiatáu corff Alex i ddod adref i'r Alban.

“Mae’n dod â llawer o gysur i Moira ac aelodau eraill o’r teulu o wybod y bydd adref gyda nhw."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.