
Ymdrech i ddatgan argyfwng tai yng Nghernyw yn methu

Ymdrech i ddatgan argyfwng tai yng Nghernyw yn methu
Mae ymdrech gan gynghorwyr yr wythnos yma i ddatgan argyfwng tai yng Nghernyw wedi methu.
Ond fel sawl ardal arall sy'n dibynnu ar dwristiaeth mae ail gartrefi yn broblem gynyddol yno, ac mae prisiau tai wedi cynyddu 15% ers yr hydref.
Er bod Martha Noal, myfyrwraig yn Rhydychen, yn dychwelyd adref i Borthaia i weithio bob haf dydy hi ddim yn credu bydd modd iddi symud yn ôl i fyw i'r ardal.

“Mae'r siawns o allu prynu yma yn denau iawn, mae rhentu'n ddrud iawn hefyd," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Yn y gaeaf, chi'n cerdded o amgylch a does neb yn byw yn y tai hyn. Gallwch chi gerdded i fyny stryd gyfan a gweld neb
"Rwy'n gwybod bod perchnogion ail gartrefi yn cynnig rhentu i bobl leol yn y gaeaf ond maen nhw dal yn ddrud.
"Alla'i ddim dychmygu prynu yma byth."
Yn wahanol i Gymru does gan y cyngor sir ddim hawl i godi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi - cafodd cais diweddar i'r llywodraeth yn San Steffan am yr hawl i wneud hynny ei wrthod.
Ond ym Mhorthia ac mewn ambell dre glan mor arall mae ymgais i reoli nifer y tai haf.
Yn wahanol i Gymru does dim hawl yma i droi unrhyw adeilad newydd yn dŷ haf a rhaid profi eich bod yn defnyddio'r eiddo drwy'r flwyddyn.

“Mae wedi atal datblygiadau mawr ac yn benodol datblygiadau eiddo gwerth miliwn o bunnoedd sy'n digwydd mewn ardaloedd eraill," meddai Jenefer Lowe, sydd yn byw yn lleol.
"Dyw'r polisi yma ddim gyda nhw yn Hayle y dre nesa, ac mae rhai datblygiadau enfawr yn digwydd yno."
Atal diboblogi yw pwrpas y polisi yma - ond mae pryder nad yw'n creu tai fforddiadwy i bobl leol.
"Allwn ni ddim cario mlaen fel hyn," meddai'r cynghorydd Tamsyn Widdon.
"Allwn ni ddim parhau i brisio pobl allan.
"Mae dros fil o bobl yn aros am dy rhent yng Nghernyw a dwi'n cael galwadau ffôn byth a hefyd yn gofyn am help.
“Mae pobl yn cael eu symud o gwmpas y sir ac mae plant yn cael eu symud o ysgol i ysgol. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth ar frys, mae'n argyfwng.”