Newyddion S4C

Pobol y Cwm: Tri thestun trafod o benodau pen-blwydd 50

20/10/2024
Dyff Jones a Garry Monk Pobol y Cwm

Rhybudd 'sbwylio': Mae'r erthygl hon yn cynnwys digwyddiadau ym mhennod pen-blwydd 50 Pobol y Cwm nos Fercher.

Cafodd gwylwyr Pobol y Cwm eu cyfarch gan wynebau hen a newydd yng Nghwmderi ym mhenodau pen-blwydd 50 y gyfres.

Byddai gwylwyr selog y gyfres yn cofio Dyff Jones, gŵr i Kath Jones a fu farw ar ôl iddo ddioddef ymosodiad - ond fe ddychwelodd i Gwmderi nos Fercher.

Wyneb arall cyfarwydd wnaeth ddychwelyd oedd Garry Monk - yr hen ddihiryn wnaeth unwaith eto synnu'r gwylwyr, y tro hwn wrth ddianc rhag yr heddlu.

Ar ôl misoedd o ddisgwyl roedd dau wyneb newydd yn y cwm wrth i Sioned roi genedigaeth i efeilliaid.

Uchafbwynt y bennod pen-blwydd nos Fercher oedd tafarn eiconig y Deri Arms yn ffrwydro wrth i ddathliadau penblwydd aelod hynaf cymuned Cwmderi, Megan Harries cael eu cynnal gerllaw.

Ar ddiwedd pennod nos Iau cafodd gwylwyr gryn sioc wrth i Seren, merch Dani a Garry, ddisgyn oddi ar ail lawr adeilad mewn ystâd ddiwydiannol cyn i'r bennod ddod i ben.

Wedi tair pennod o ddathlu'r pen-blwydd 50 yn dod i ben, beth yw'r testunau trafod?

Ydy Seren wedi marw?

Mae'n debygol nad oedd llawer yn disgwyl mai Seren fyddai'r cymeriad allai farw ar ddiwedd y tair pennod arbennig.

Disgynnodd Seren oddi ar ail lawr ystâd ddiwydiannol tu allan i Lanarthur wedi iddo deithio yno gyda'i mam Dani a Cai Rossitter.

Fe deithion nhw yno gan fod Cai wedi tracio oriawr ei ferch, Lleucu, a gafodd ei chludo yno gyda Sion White gan Garry, oedd yn eu bygwth gyda chyllell.

Roedd Garry yn awyddus i weld Gwern, oedd wedi trefnu i gwrdd â'i gariad Lleucu yno.

Ar ôl i Dani a Cai gyrraedd, aeth Dani i mewn i'r adeilad gan fynnu bod Cai yn aros i edrych ar ôl Seren.

Wedi rhai munudau fe aeth Cai mewn gan adael Seren ar ei phen ei hun yn y car, cyn iddi benderfynu edrych am ei rhieni a disgyn oddi ar i un o loriau'r adeilad wrth redeg tuag atyn nhw.

Image
Pobol y Cwm
Yr olygfa ar ôl i Seren ddisgyn oddi ar yr ail lawr. Llun: S4C

Rydym yn gwybod bod Florence Seaman, sydd yn actio cymeriad Seren wedi gadael Pobol y Cwm, ond mae'n bosib bydd actores newydd yn cymryd ei lle.

Dyna ddigwyddodd gyda chymeriadau yn y gorffennol fel Gwern a Chester, mab Britt.

Fe fydd yn rhaid aros tan bennod nos Fawrth i weld beth fydd yn digwydd nesaf ym mywyd Seren.

Pam bod Dyff wedi dychwelyd?

Yn y penodau yn arwain at nos Fercher roedd cryn ddyfalu am bwy oedd Cassie yn siarad gyda nhw ar y ffôn ac yn eu rhybuddio i "gadw i ffwrdd" o Gwmderi.

Mae'n ymddangos bellach mai Dyff oedd hwnnw, a oedd am ddychwelyd i'r cwm i weld ei fab Daniel, oedd mewn coma yn yr ysbyty.

Roedd y pentrefwyr, a theulu Dyff (Kath, Mark a Stacey Jones) dan yr argraff ei fod wedi marw 24 mlynedd ynghynt wedi ymosodiad arno gan Frank Price.

Ond gyda chymorth yr heddlu fe wnaeth ffugio’i farwolaeth a symud i fyw yn Ffrainc.

Wedi marwolaeth Frank Price, pan gafodd wybod ei fod yn ddiogel, yn lle dychwelyd i Gwmderi fe wnaeth y penderfyniad i symud i Sbaen at Jean McGurk.

Image
teulu Jones
Dyff, Stacey, Mark a Kath Jones ym Maes y Deri wedi i'r teulu aduno. Llun: S4C

Roedd y ddau wedi cael perthynas tu ôl i gefn Kath yn y 90au, ac roedd Cassie, a dreuliodd gyfnodau yn Tenerife, yn ymwybodol o hyn ar y pryd ac yn gwybod y cwbl am eu haduniad yn Sbaen.

Bu farw Jean yn 2018 ac roedd Cassie, sydd yn rhedeg y Deri ar y cyd gyda Kath, wedi teithio i Tenerife er mwyn dod â'i llwch yn ôl i Gwmderi.

Fe wnaeth Dyff ddychwelyd i'w gyn-gartref ym Maes y Deri i geisio esbonio'r sefyllfa i Kath, ond roedd hi'n gandryll o glywed am dwyll ei chyn ŵr, ac am ei fod wedi bradychu ei deulu.

Wrth i'r teulu drafod hyn sylweddolodd Kath fod Cassie wedi gwybod y gwir ers blynyddoedd ac aeth yn syth i herio ei ffrind yn y Deri Arms. 

Cyn i'r ddwy gychwyn trafod, bu ffrwydrad yn y Deri.

Beth nesaf i Garry Monk?

Ni fyddai'n bennod arbennig ym Mhobol y Cwm heb ymddangosiad gan Garry Monk.

Ymddangosodd ar gyfer angladd Gloria, oedd yn edrych ar ôl Garry, ei frawd Brandon a'i chwaer Britt yn ystod eu plentyndod yn Newcastle.

Symudodd y teulu i Gwmderi yn 2002 a bu farw Brandon yn 2011 ar ôl dioddef trawiad ar y galon wedi tân mewn fflat uwchben y siop bysgod a sglodion.

Cafodd Garry ei garcharu am lofruddio Dylan, oedd yn gariad i'w gyn-wraig Dani.

Yn ystod angladd Gloria roedd Garry Monk wedi gofyn i'r swyddog carchar i'w ryddhau o'r gefynnau (handcuffs) er mwyn cario ei harch.

Unwaith y cafodd ei ryddhau fe redodd allan o'r gwasanaeth gan ddweud "sori Gloria" a gyrru i ffwrdd mewn hers.

Image
Pobol y Cwm
Garry Monk yn bygwth Lleucu Rossitter a Sion White. Llun: S4C

Fe wnaeth Garry ddychwelyd i Gwmderi i chwilio am ei fab Gwern, a gafodd ei ryddhau o'r carchar rai misoedd yn ôl, ac fe ddaeth o hyd iddo trwy fygwth Lleucu a Sion gyda chyllell.

Dywedodd Garry wrth Gwern nad oedd eisiau iddo fynd i lawr yr un llwybr ag ef, a'i fod eisiau bod yn dad da iddo.

Roedd y ddau yn deall ei gilydd erbyn i Cai ymddangos ac yna Seren, cyn iddi ddisgyn oddi ar yr ail lawr.

Mae Garry ar ffo o'r carchar ac mae'n debygol y bydd yn gwneud unrhyw beth i osgoi mynd yn ôl.

Ond pe bai ei ferch wedi marw fe allai hynny newid pethau, a bydd eisiau parhau yn y cwm i fod yn gefn i'w deulu.

Amser a ddengys beth fydd ffawd yr holl gymeriadau yn y bennod nesaf, ond mae digon o straeon gafaelgar wedi datblygu yn y penodau arbennig i gadw gwylwyr yn dyfalu.

Prif lun: S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.