Newyddion S4C

Liam Payne, cyn aelod o’r band One Direction, wedi marw yn 31 oed

Liam Payne

Mae Liam Payne, cyn aelod o’r band One Direction, wedi marw yn 31 oed yn ôl heddlu yn yr Ariannin.

Mae adroddiadau ei fod wedi syrthio o drydydd llawr gwesty yn Buenos Aires ddydd Mercher.

Digwyddodd marwolaeth Payne yng ngwesty y Casa Sur Hotel yng nghymdogaeth Palermo, yn ôl datganiad gan yr heddlu yno.

Dywedodd pennaeth gwasanaeth meddygol brys y ddinas, Alberto Crescenti, bod y seren bop wedi ei gludo i ysbyty Casa Surno ond ei fod wedi dioddef “anafiadau difrifol iawn" ac nad oedd “unrhyw obaith iddo oroesi".

'Dyn hyfryd'

Dywedodd Lloyd Macey, cyn gystadleuydd arall ar yr X Factor ei fod yn "newyddion ofnadwy o drist." 

"Gwrddes i â Liam ar y daith X Factor, dyn hyfryd gydag amser i bawb a phob un," meddai. "Heddwch i’w lwch."

Fe wnaeth y brodyr Jedward, a oedd hefyd wedi cystadlu ar X Factor, roi teyrnged i'r seren bop ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd John ac Edward Grimes eu bod nhw'n “anfon cryfder at ei fab Bear a Cheryl a holl deulu One Direction”.

Image
One Direction
One Direction: Louis Tomlinson, Niall Horan (a ei eistedd), Liam Payne a Harry Styles yn 2010

One Direction

Cafodd y band One Direction a oedd hefyd yn cynnwys Harry Styles, Zayn Malik, Louis Tomlinson a Niall Horan ei ffurfio am y tro cyntaf yn 2010 ar y sioe The X Factor.

Cyhoeddodd One Direction eu bod yn bwriadu cymryd seibiant yn 2015, gydag aelodau’r grŵp yn mynd i weithio ar brosiectau unigol ar ôl rhyddhau eu pumed albwm fel grŵp.

Rhyddhaodd Payne ei albwm unigol cyntaf LP1 ym mis Rhagfyr 2019, a oedd yn cynnwys y senglau Polaroid and Familiar.

Mae ganddo ef a chantores Girls Aloud, Cheryl Tweedy, fab o'r enw Bear, a gafodd ei eni yn 2017.

Llun gan Ben Birchall / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.