Newyddion S4C

Mwy o swyddi i fynd wrth i Brifysgol Bangor wynebu 'heriau ariannol difrifol iawn'

Newyddion S4C

Mwy o swyddi i fynd wrth i Brifysgol Bangor wynebu 'heriau ariannol difrifol iawn'

Bydd swyddi'n diflannu a chodiadau cyflog yn cael eu gohirio wrth i Brifysgol Bangor chwilio am £9 miliwn o arbedion pellach yn sgîl "heriau ariannol difrifol iawn."

Mewn cyfarfod agored ddydd Mercher, clywodd staff bod prifysgolion yn gyffredinol yn wynebu "pwysau ariannol digynsail". 

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, Edmund Burke,  mai'r prif resymau am y problemau ariannol oedd nad oedd ffioedd myfyrwyr o'r D.U wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. 

Yn ogystal, roedd camau i leihau lefelau mewnfudo wedi cael effaith ar y nifer o fyfyrwyr o dramor.

Ffactor arall, meddai, oedd cynnydd cyffredinol mewn costau.

Daw'r toriadau diweddaraf bedwar mis yn unig wedi i'r brifysgol gyhoeddi eu bod angen gwneud arbedion o £12.5 miliwn a cholli rhwng 60 ac 80 o swyddi. 

"Rydym i gyd yn siomedig ein bod yn y sefyllfa hon," meddai'r Is-Ganghellor. 

"Nid fy mwriad oedd i’r Brifysgol fod angen gwneud arbedion cost pellach, ond rhaid inni dderbyn ein bod ni a llawer o brifysgolion eraill yn wynebu heriau ariannol difrifol iawn.

Mae disgwyl i gynllun diswyddo gwirfoddol gael ei agor ar gyfer ceisiadau o fewn yr wythnosau nesaf, ond does dim sicrwydd hyd yma faint yn rhagor o swyddi fydd yn cael eu colli. 

Yn ogystal gallai'r dyfarniad cyflog cenedlaethol i staff prifysgolion gael ei ohirio ym Mangor tan hyd at mis Gorffennaf 2025.

Yn ôl Dr Dylan Jones Evans, economegydd ac academydd blaenllaw, mae problemau ariannol "ar draws y sector addysg uwch".

"Os oes disgwyl y bydd pethau ddim yn newid, mi fydd na sefyllfa lle fydd prifysgolion yn mynd i'r sefyllfa bosib ddim yn gallu talu cyflogau," meddai.

"Dwi ddim yn gweld  Llywodraeth Cymru yn gadael i unrhyw brifysgol gau oherwydd yr effaith sa hynny'n cael ar unrhyw ardal.

"Y pwynt ydi mae addysg uwch wedi ei ddatganoli ers chwarter canrif ac mae o fyny i Lywodraeth Cymru ddod fyny efo cynllun yma yng Nghymru a pheidio poeni am beth sy'n digwydd dros y ffin.

"Ond dwi'n deud mae na broblem ariannol, does neb yn gwrando a rwan da ni'n gweld yr arbedion yma yn dod drwy'r sector ac mi allai Llywodraeth Cymru fod wedi gallu sefyll mewn i siarad efo nhw".

Dydd Mercher fe ddywedodd y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS nad oedd hi'n credu bod unrhyw Prifysgol yng Nghymru mewn perygl o fynd i'r wal.

Er iddi awgrymu ddydd Mawrth ar lawr y siambr bod cynllun ariannol ar y gweill i leddfu pwysau ar brifysgolion dywedodd ddydd Mercher nad oedd hynny yn gynllun terfynol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r sector yn wynebu "cyfnod ariannol heriol"

"Rydym yn monitro’r sefyllfa ac wedi cynyddu'r terfyn ffioedd dysgu y llynedd".

Doedd Llywodraeth Prydain ddim am ymateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.