Galwad o’r newydd am ymchwiliad cyhoeddus i'r gamdriniaeth gan Neil Foden

Galwad o’r newydd am ymchwiliad cyhoeddus i'r gamdriniaeth gan Neil Foden
Mae cyfreithiwr sydd yn cynrychioli 20 o bobl sydd yn honni i'r cyn-brifathro Neil Foden ymosod yn gorfforol, yn rhywiol neu’n emosiynol arnyn nhw mewn dwy ysgol rhwng 1979 a 2023 yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.
Mae Katherine Yates o gwmni Andrew Gove & Co, yn dweud bod ei hymchwiliadau wedi darganfod problem fwlio sylweddol yn Ysgol Friars ym Mangor, allai fod wedi effeithio ar allu staff rhag gofalu am blant yn eu gofal.
Mae’n honni hefyd i Neil Foden geisio bwlio llywodraethwyr ysgol, ac mai ychydig iawn o gefnogaeth gawson nhw gan awdurdod addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd.
Dywedodd Cyngor Gwynedd “na fyddai’n briodol gwneud sylw ar unrhyw faterion cyfreithiol posib” gan “annog unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â gwybodaeth berthnasol i’w chyflwyno yn uniongyrchol i’r Cyngor, neu os yn berthnasol, i’r heddlu.”
Ym mis Gorffennaf, fe gafodd Neil Foden, 66, ei garcharu am 17 mlynedd am gamdrin pedair o ferched yn eu harddegau yn rhywiol.
Fe ddechreuodd gyrfa addysgu Foden yn ysgol Dyffryn Ogwen ym 1979, ac fe gafodd ei benodi yn bennaeth ar Ysgol Friars ym 1997.
Yn ôl Llywodraeth Cymru “Bydd Adolygiad Ymarfer Plant cynhwysfawr yn cael ei gynnal i’r achos. Bydd y canfyddiadau'n llywio unrhyw benderfyniadau ar gamau ehangach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys a oes angen ymchwiliad cyhoeddus llawn."
Gwersi i'w dysgu
Ddydd Mawrth, mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cwrdd am y tro cyntaf ers i bedwar aelod ymddiswyddo gan gyfeirio at “wahaniaeth sylfaenol rhwng y pedwar a’r arweinyddiaeth”.
Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd y Cynghorwyr Beca Brown, Elin Walker Jones, Dafydd Meurig a Berwyn Parry Jones eu bod yn “ymbellhau eu hunain oddi wrth y sylwadau gafodd eu gwneud gan (yr Arweinydd) Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C.”
Yn y cyfweliad hwnnw fe wrthododd Dyfrig Siencyn ag ymddiheuro i ddioddefwyr y pidoffeil Neil Foden, er iddo dderbyn fod gwersi i'w dysgu.
Ddiwrnod yn ddiweddarach, fe ymddiheurodd Mr Siencyn yn ddiffuant i’r dioddefwyr gan ymuno â’r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus. Fe ddywedodd hefyd y byddai yn ystyried ei sefyllfa dros y penwythnos.
Doedd dim arwydd o benderfyniad pendant ar hynny ddydd Mawrth wrth i’r arweinydd gadeirio’r cyfarfod.
Mae Newyddion S4C yn cael ar ddeall bod aelodau etholedig grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn cwrdd nos Fercher i drafod y sefyllfa.
Mae cwestiynau o hyd am ddyfodol Dyfrig Siencyn fel arweinydd, gyda chyfarfod nos Fercher yn debyg o roi arwydd o’r ffordd ymlaen.