Cwmni dur yn creu 39 o swyddi ym Mhowys
Bydd 39 o swyddi dur newydd yn cael eu creu mewn ffatri ym Mhowys.
Mae cwmni dur Kiernan Structural Steel Ltd yn buddsoddi £1.4 miliwn yn ei bencadlys yn Llandrindod.
Fe fydd yn creu 39 o swyddi newydd, gan gynnwys pum prentisiaeth, ac yn diogelu 24 swydd arall.
Ar hyn o bryd mae'r busnes yn cyflenwi cynnyrch ar gyfer ystod o sectorau amrywiol, o adeiladu a seilwaith, i weithgynhyrchu a deunydd fferyllol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £140,000 yn y prosiect.
Ers 2021 mae'r cwmni wedi buddsoddi mwy na £5 miliwn yng Nghymru, meddai'r llywodraeth.
Dywedodd Frank a Dolores Kiernan, Cyfarwyddwyr Kiernan Structural Steel bod y buddsoddiad yn dangos eu hymrwymiad i economi Cymru.
"Mae ehangu ein gweithrediadau yn Llandrindod yn adlewyrchu ein hymrwymiad nid yn unig i gryfhau ein capasiti ond hefyd i gefnogi economi Cymru a diwallu anghenion ein cwsmeriaid ledled y DU," meddai'r ddau.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar ein henw da am ddarparu cynhyrchion dur o safon uchel trwy wneud mwy o'n gwasanaethau arbenigol yn fewnol, lleihau costau ac effaith amgylcheddol, a chreu swyddi gwerthfawr a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer talent lleol."