Newyddion S4C

'Newid hanes ei wlad': Teyrnged yr Arglwydd Wigley i'w gyfaill Alex Salmond

14/10/2024
alex salmond dafydd wigley.png

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley wedi disgrifio Alex Salmond fel "personoliaeth sylweddol iawn ddaru newid hanes ei wlad". 

Bu farw cyn Brif Weinidog yr Alban dros y penwythnos yn 69 oed, ar ôl iddo gael ei daro'n wael tra yn yng Ngogledd Macedonia.

Arweiniodd Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP rhwng 1990 a 2000, ac yna eto rhwng 2004 a 2014. 

Wrth roi teyrnged iddo ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd yr Arglwydd Wigley iddo gydweithio ag Alex Salmond 0 1987 ac yn arbennig yn y 90au, yn ystod ymgyrchoedd yr Etholiad Cyffredinol a'r Refferendwm Datganoli yn 1997 ac yna'r etholiad cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru a Senedd yr Alban. 

Roedd Alex Salmond wedi sôn droeon am ddylanad Dafydd Wigley arno.  

"Pan o'dd o'n sefyll am y tro cyntaf, es i fyny i ganfasio hefo fo. Ac o'dd o'n hael iawn pan o'dd o'n lansio ei lyfr yn sôn am y dylanwad hwnnw", meddai ar raglen Dros Frecwast.

Ac wrth gyfeirio at ddoniau gwleidyddol Alex Salmond, dywedodd ei fod yn wleidydd mentrus: "O'dd o bob amser yn fodlon mentro yn wleidyddol er mwyn ceisio cael y maen i'r wal ynde.  

"Y gwir ydy, nôl yn nechrau'r ganrif yma, oedd o ei hun yn ystyried ei sefyllfa, a oedd o am barhau a'i peidio. Pan o'n i 'di cyhoeddi mod i'n sefyll i lawr o arweinyddiaeth Plaid Cymru tua 2001, doth o'n unswydd i'n swyddfa i yng Nghaernarfon - ddaru o yrru yno. Gafon ni drafodaeth am ryw ddwy awr, ac ynta hefyd yn ystyried ei sefyllfa. 

"Ac  ar ddiwedd y sgwrs, o'dd o'n deud: 'Dafydd, I think I'll give it one more go' - dyna oedd ei eiria fo". 

Wedi hynny aeth ymlaen i arwain plaid yr SNP cyn dod yn Brif Weinidog yr Alban.

Cyfnodau anodd 

Ac yn ôl yr Arglwydd Wigley, wynebodd Alex Salmond gyfnodau anodd. 

"O'dd o'n bersonoliaeth o'dd yn gallu creu cytundebau efo gwahanol bleidiau i wahanol bwrpas, ac wrth gwrs gweithio efo bobol oddi allan i'r Senedd. O ganlyniad i hyn, odd 'na atgasedd aruthrol tuag ato fo. A  'dw i'n cofio pan es i nôl i Lundain yn 2011...

"Dwi'n cofio dechra 2012 , o'dd 'na ddadl yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac o'dd aelodau o Dŷ'r Arglwyddi o'r Alban yn gwbwl ffiaidd tuag ato fo, yn cyfeirio ato fo fel Hitler a Mugabe. 

"Ac o'dd yn rhaid i mi ymyrryd yn y ddadl  i ddeud gair drosto fo. Ac wedyn mi ddoth nifer o aelodau i mewn i ddweud bod hi'n warth bod rhaid i rywun o Gymru sefyll fyny drosto, pan roedd bobol o'i wlad ei hun yn ymosod arno". 

Yn ôl yr Arglwydd Wigley, roedd gan Alex Salmond ddiddordeb mawr yng Nghymru, yn enwedig y bardd RS Thomas.

"O'ddan ni'n cynllunio  i Alex ddod i roi darlith ar RS Thomas yn Portmeirion. Yn anfodus mae Alex wedi'n gadael, ond mae atgofion da", meddai.                       

      

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.