Dynes o Balestina wedi ennill gwobr ffilm fer LHDTC+ fwyaf y byd
Mae dynes o Balestina, Dima Hamdan, wedi ennill Gwobr Iris, gwobrau ffilm fer LHDTC+ fwyaf y byd sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd bob blwyddyn.
Dywedodd Dima Hamdan ei bod yn “anrhydedd mawr” i dderbyn Gwobr Iris 2024 o £30,000, oherwydd ei fod yn “Oscars” byd ffilmiau byr LGBTQ+” ac “mae’n dod o gymuned sydd wedi lleisio ei chefnogaeth fwyfwy i Balestina yng Nghymru yn y blynyddoedd diweddar".
Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price, cadeirydd y rheithgor rhyngwladol, fod Blood Like Water, yn "atgof pwysig fod pobl cwiar yn bodoli ym mhobman, gan gynnwys ym Mhalestina ar adeg o ryfel a meddiannaeth".
Fe enillodd Louisa Connolly-Burnham y Ffilm Fer Brydeinig Orau yn yr ŵyl yng Nghaerdydd am ei gwaith, Sister Wives.
Gwneuthurwr ffilmiau a newyddiadurwr hunanddysgedig yw Dima Hamdan sy’n byw yn Berlin.
Yn ôl yr ŵyl, mae ei ffilm "yn adrodd hanes Shadi, sy'n cychwyn ar antur gyfrinachol ac yn llusgo'i deulu'n ddamweiniol i drap lle mai dim ond dau ddewis sydd ganddyn nhw; cydweithio â meddiannaeth Israel neu gael ei gywilyddio a'i fychanu gan eu pobl eu hunain" .
Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Hamdan: “Mae’n anodd dathlu cyflawniadau personol pan mae’r rhyfel sydd wedi’i ddarlledu fwyaf ac a gafodd ei ffrydio’n fyw yn hanes dyn wedi llusgo ymlaen am flwyddyn heb unrhyw ddiwedd yn y golwg.”
Sefydlwyd Gwobr Iris yn 2007 gan Berwyn Rowlands fel gwobr a gŵyl ffilm LHDTC ryngwladol sy’n agored i unrhyw ffilm sydd gan, ar gyfer, yn ymwneud â neu o ddiddordeb i gynulleidfaoedd hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsrywiol neu ryngrywiol.