Newyddion S4C

‘Eisteddfod Gudd’ i’w chynnal yn Aberystwyth

14/07/2021
Eisteddfod Gudd

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd penwythnos Eisteddfod Gudd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Gorffennaf.

Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn Nhregaron eleni, ond bu’n rhaid ei gohirio am yr eildro, tan 2022 yn sgil Covid-19.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn rhan o ddigwyddiadau'r Eisteddfod AmGen, gyda deuddydd “llawn cerddoriaeth” yn rhan o’r digwyddiad rhwng 31 Gorffennaf a 1 Awst.

Bydd artistiaid yn perfformio ar lwyfan awyr agored yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, gyda “nifer cyfyngedig” o docynnau ar gael i’w harchebu.

Dywed yr Eisteddfod y bydd yr ŵyl hefyd yn cael ei ffrydio’n ddigidol ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar eu tudalen YouTube.

Bydd y tocynnau ar gael i’w prynu ar wefan Canolfan y Celfyddydau o 10.00 bore dydd Iau, 15 Gorffennaf, gyda’r tocynnau yn costio £30 am fwrdd o chwech.

Yn ôl yr Eisteddfod, bydd dydd Sadwrn yn cael ei rannu’n ddwy sesiwn, gyda thocynnau diwrnod llawn ar gael i’w prynu ar gyfer dydd Sul.

Ymhlith artistiaid yr ŵyl mae Eden, Yr Ods, Alffa, Huw Chiswell, Band Pres Llareggub, Catrin Finch a Seckou Keita.

Profiad Eisteddfod ‘go iawn’

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn arw at ddod â’r Eisteddfod Gudd yn fyw i bawb.  Fe fydd mor braf i weld bandiau, perfformwyr ac artistiaid ar lwyfan go iawn, a chael cyfle i fwynhau ychydig o naws ac awyrgylch yr Eisteddfod gyda’n gilydd.

“Ry’n ni wedi dod ag artistiaid amlycaf Cymru at ei gilydd - llawer ohonyn nhw‘n fyw ar y llwyfan - ac eraill mewn sesiynau hyfryd yn eu cynefin eu hunain, a phopeth yn rhan o benwythnos sy’n debyg iawn i’r profiad o fod mewn Eisteddfod go iawn.  

“Felly, gwisgwch eich dillad gŵyl, gafaelwch yn eich gwydr ‘Steddfod, ac fe ddown ni at ein gilydd – ar wahân – ar gyfer y parti mwyaf ers Eisteddfod Sir Conwy, Llanrwst.  Mae hi wedi bod yn amser rhy hir, ac mae’n hen bryd i ni gael parti mawr.  A chofiwch adael i ni wybod lle fyddwch chi’n gwrando a gwylio’r Eisteddfod Gudd!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.