Newyddion S4C

Ni fydd y Brenin Charles 'yn sefyll yn y ffordd' os yw Awstralia am gael gwared ar y frenhiniaeth

12/10/2024
Charles yn Awstralia

Ni fydd y Brenin Charles "yn sefyll yn y ffordd" os yw Awstralia yn dewis cael gwared ar frenhiniaeth a dod yn weriniaeth.

Dywedodd y Brenin wrth wrth-frenhinwyr na fyddai'n ymyrryd os cynhelir pleidlais i'w ddiswyddo fel pennaeth y wladwriaeth.

Daw wrth iddo ef a Camilla baratoi ar gyfer ymweliad brenhinol ag Awstralia yr wythnos nesaf.

Fe ysgrifennodd Mudiad Gweriniaeth Awstralia (ARM) at Balas Buckingham i ofyn am gyfarfod ag ef pan fydd yn cyrraedd y wlad.

Mewn ymateb, dywedodd ei ysgrifennydd preifat cynorthwyol fod gan y brenin "gariad a hoffter dwfn" at Awstralia. Fe wnaeth ganmol "meddylgarwch" y grŵp am ysgrifennu, gan ychwanegu ei fod yn ei "werthfawrogi'n fawr".

“Mae Ei Fawrhydi, fel brenin cyfansoddiadol, yn gweithredu ar gyngor ei weinidogion ac felly, mater i’r cyhoedd yn Awstralia yw penderfynu a ddaw Awstralia yn weriniaeth,’ meddai’r datganiad.

Mae’r ARM wedi canmol “cyfraniad pwysig” y teulu brenhinol, gan ddweud y bydden nhw am i’r ddwy wlad aros yn “y ffrindiau a’r cynghreiriaid agosaf”.

Ond yn eu llythyr, dywedon nhw ei bod hi'n bryd i'w gwlad sefyll "ar sail gyfartal â chenhedloedd eraill".

Dywedodd y grŵp fod cefnogaeth gynyddol i'w symudiad.

Daw ar ôl i gynrychiolydd Charles yn Awstralia, y Llywodraethwr Cyffredinol Sam Mostyn, ddweud yn ddiweddar fod gan y Brenin “barch mawr” at Awstralia.

“Mae eisiau gweld Awstralia fodern, ymgysylltu â chymunedau yn fras er o fewn amserlen dynn, o ystyried ei iechyd,” meddai.

Cynhaliwyd refferendwm ar gael gwared ar y frenhiniaeth ddiwethaf yn 1999 - gyda bron i 55 y cant yn pleidleisio o blaid eu cadw.

Ym mis Ionawr eleni, dywedodd llywodraeth Awstralia nad oes cynlluniau ar gyfer pleidlais newydd, gan ddweud “nad yw’n flaenoriaeth”.

Llun: Charles yn Awstralia yn 2015. Llun gan  John Stillwell.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.