‘Y mwyaf dinistriol ers dros ganrif’: Corwynt Milton yn cyrraedd Florida
11/10/2024
‘Y mwyaf dinistriol ers dros ganrif’: Corwynt Milton yn cyrraedd Florida
Oriau man y bore a'r adeg wnaeth corwynt nerthol Milton sgubo arfordir gorllewinol Florida.
Yn St Petersburg, craen yn chwalu sawl adeilad a tho'r stadiwm pel-fas wedi'i rhwygo'n ddarnau.
Dros y dyddiau diwethaf, mae miloedd wedi cael rhybudd i ffoi wrth i swyddogion rybuddio mai dyma'r storm waethaf ers canrif.
"Roedd gridlock ledled y state ar yr highways yn barod.
"Os ti'n edrych ar y map I75 sy'n mynd o'r gogledd i'r de a'r I4 sy'n mynd i'r canol i'r dwyrain yn hollol goch achos oedd pobl yn trio ffoi."
Dyma'r trydydd corwynt i daro y tymor hwn.
I nifer, dydy hyn ddim yn brofiad newydd.
"Un o'r pethau am fyw yn Florida ydy'r corwynts.
"Mae'n mynd yn waeth.
"Os chi'n byw yn California, chi'n cael earthquakes.
"Jyst un o'r pethau drwg am fyw yn Florida. Mae'n cynhesu hefyd."
Mae Milton yn taro dim ond pythefnos ar ôl Corwynt Helene laddodd o leia 225 o bobl.
Be yn union ydy corwynt a beth sy'n ei hachosi?
"Maen nhw'n dechrau fel cwmwl ac yn adeiladu mewn i gorwyntoedd mawr.
"Mae cwpl o ffactorau sydd angen i gyrraedd lefel corwynt.
"Un o'r rheiny yw bod lefelau tymheredd y môr 27C neu'n uwch.
"Ti hefyd angen gwyntoedd cryf sy'n chwythu i'r un cyfeiriad a'r un cyflymder.
"Wnaeth e gyrraedd Categori 5 yn y Gwlff.
"Erbyn iddo gyrraedd y lan, cyrraedd Categori 3."
Be allwn ni ddisgwyl efo corwynt Categori 3?
"Gyda hwn, cyflymder gwynt rhyw 130mya.
"Pan ti'n son am gorwynt o'r fath maint a'r pŵer ti'n son am gyflymder y gwynt, yr holl law a'r ymchwydd storm sydd ymhlith y pethau mwyaf peryglus."
Er i Milton wanhau wrth wneud ei ffordd tua'r dwyrain yr un mor ddinistriol oedd y difrod gan ladd pedwar yn St Lucie.
Er bod Milton wedi cilio mae rhybuddion am ragor o law, gwynt a llifogydd a rhannau o'r dalaith hon yn deilchion.