Newyddion S4C

Achos Neil Foden: Pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd yn ymddiswyddo

Achos Neil Foden: Pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd yn ymddiswyddo

Mae pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo oherwydd anhapusrwydd gyda'r modd y mae arweinyddiaeth y cyngor wedi ymdrin ag achos Neil Foden.

Mewn datganiad dywedodd y cynghorwyr Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones eu bod nhw’n camu i lawr oherwydd gwahaniaeth barn gydag arweinyddiaeth y cyngor.

Dywedodd y cynghorwyr: “Dymunwn ymbellhau ein hunain oddi wrth y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arweinydd Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C neithiwr.”

Nos Iau roedd Dyfrig Siencyn wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y prifathro gan ddweud ar raglen Newyddion S4C: “os bydd unrhyw fai ar y Cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro”.

Ond bnawn Gwener fe wnaeth hynny gan ddweud ei fod yn gwneud “yn ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden”.

Ategodd: "Rwyf wedi fy nhristau gan y newyddion fod pedwar o fy nghyd-aelodau Cabinet wedi datgan heddiw eu bod yn camu i lawr o’u dyletswyddau. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr a’u gwaith diflino dros bobl a chymunedau Gwynedd.

"Dros y penwythnos byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau ac yn ystyried fy sefyllfa fy hun, cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen."

Y datganiad yn llawn

Yn eu datganiad dywedodd y cynghorwyr Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones: 

“Dymunwn fynegi yn ddiffuant ein tor-calon a’n hymddiheuriadau dyfnaf i ddioddefwyr y troseddwr rhyw Neil Foden am y profiadau erchyll maent wedi gorfod ei ddioddef o’i herwydd.

“Rydym wedi camu i lawr o gabinet Cyngor Gwynedd heddiw oherwydd gwahaniaethau sylfaenol rhyngom a’r arweinyddiaeth ynglŷn â sut i ddelio gyda’r hyn a wnaeth Foden a beth yw’r ffordd orau i fynd ati i ganfod beth yn union aeth o’i le.

“Dymunwn ymbellhau ein hunain oddi wrth y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arweinydd Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C neithiwr.

“Rydym yn cyd-sefyll gyda’r dioddefwyr ac yn llwyr gefnogol i ddatganiad Grŵp Plaid Cymru Gwynedd ac aelodau etholedig y sir ac yn galw unwaith eto am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau’r cyngor sir.

“Rydym yn gresynu’n arw bod materion arweinyddiaeth y Cyngor wedi tynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd bwysicaf oll yn y sefyllfa drasig yma - sef dioddefaint y merched. Merched a aeth i’r ysgol, ac a oedd i fod yn saff.”

‘Yn ein meddyliau’

Daw ymddiheuriad Dyfrig Siencyn ddydd Gwener wedi i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dweud bod angen “ailystyried” peidio ag ymddiheuro am ei fod yn amlwg bod rywbeth wedi mynd o’i le.

Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei reoli gan grŵp Plaid Cymru, sy'n cynnal ei chynhadledd ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Siencyn: “Rwyf yn ymddiheuro yn ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden a hoffwn roi gwarant i bobl Gwynedd, ac yn arbennig i’r dioddefwyr, fy mod i a fy nghyd-gynghorwyr yn benderfynol o droi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.

“Ategaf yr hyn rwyf wedi ei ddweud yn barod, sef fod dioddefwyr Neil Foden yn parhau i fod yn ein meddyliau i gyd a bod dysgu gwersi o hyn oll yn brif flaenoriaeth i mi ac i Gyngor Gwynedd.” 

Ymchwiliad cyhoeddus

Roedd Mr Siencyn hefyd wedi ymuno â galwadau arweinydd Plaid Cymru a rhai o aelodau etholedig y blaid am ymchwiliad cyhoeddus i beth aeth o’i le yn ei ddatganiad ddydd Gwener.

Roedd arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod gwneud yn flaenorol, gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn a dw i’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydi’r ffordd orau i wneud hynny".

Daw’r galwadau diweddaraf yn dilyn rhaglen BBC Wales Investigates, My Headteacher the Paedophile yr wythnos hon, a wnaeth datgelu honiadau pellach o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.