Newyddion S4C

Tro pedol gan arweinydd Cyngor Gwynedd wrth iddo ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden

11/10/2024
Dyfrig Siencyn / Neil Foden

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden wedi iddo wrthod gwneud yn gyhoeddus ddydd Iau wedi i ragor o honiadau am gamdrin plant ddod i’r amlwg am y cyn-bennaeth ysgol.

Roedd Dyfrig Siencyn eisoes wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y prifathro gan ddweud ar raglen Newyddion S4C nos Iau: “os bydd unrhyw fai ar y Cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro”.

Bellach, fe ddaw ei ymddiheuriad ddydd Gwener wedi i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dweud bod angen “ailystyried” hynny am ei fod yn amlwg bod rywbeth wedi mynd o’i le.

Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei reoli gan grŵp Plaid Cymru. 

Mewn datganiad, dywedodd Mr Siencyn: “Rwyf yn ymddiheuro yn ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden a hoffwn roi gwarant i bobl Gwynedd, ac yn arbennig i’r dioddefwyr, fy mod i a fy nghyd-gynghorwyr yn benderfynol o droi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.

“Ategaf yr hyn rwyf wedi ei ddweud yn barod, sef fod dioddefwyr Neil Foden yn parhau i fod yn ein meddyliau i gyd a bod dysgu gwersi o hyn oll yn brif flaenoriaeth i mi ac i Gyngor Gwynedd.” 

Ymchwiliad cyhoeddus

Roedd Mr Siencyn hefyd wedi ymuno â galwadau arweinydd Plaid Cymru a rhai o aelodau etholedig y blaid am ymchwiliad cyhoeddus i beth aeth o’i le yn ei ddatganiad ddydd Gwener. 

Roedd arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod gwneud yn flaenorol, gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn a dw i’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydi’r ffordd orau i wneud hynny”.

Daw’r galwadau diweddaraf yn dilyn rhaglen BBC Wales Investigates, My Headteacher the Paedophile yr wythnos hon, a wnaeth datgelu honiadau pellach o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr. 

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynol Jan Pickles OBE.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.