Newyddion S4C

Arweinydd Cyngor Gwynedd yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden

Newyddion S4C 10/10/2024

Arweinydd Cyngor Gwynedd yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden ar ôl i ragor o honiadau am gamdrin plant ddod i’r amlwg am y cyn-bennaeth ysgol.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn a dwi’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydi’r ffordd orau i wneud hynny.”

“Mae ymchwiliad cyhoeddus am gymryd blynyddoedd. Ond os oes ‘na ymchwiliad cyhoeddus, os oes ‘na benderfyniad i gael un, fyddwn ni’n croesawu fo.”

Mae’n cydnabod fod cwestiynau i’w hateb gan ddweud ei fod yn “hyderus y bydd y cwestiynau yna’n cael eu hateb drwy drefn yr Adolygiad Amddiffyn Plant ac mi fyddwn ni erbyn fory (dydd Gwener) wedi cyflwyno’r holl dystiolaeth.”

Ychwanegodd: “Ma ‘na gytundeb llwyr, does ‘na ddim gwahaniaeth barn ynglŷn â’r angen i ganfod beth aeth o’i le.

"Ac os oes ‘na rywbeth wedi mynd o’i le ar ein prosesau ni – gweithredu arnyn nhw. Ac os oes yna unrhyw un o swyddogion y Cyngor, fyddwn ni yn delio a hynny yn y ffordd arferol. 

"Does dim amheuaeth am yr angen i fynd i wraidd y broblem yma ac fel dwi wedi dweud ar sawl achlysur, mi fyddwn ni’n troi pob carreg posib i ganfod atebion,” meddai Dyfrig Siencyn.

Aeth ati i ddweud “os bydd unrhyw fai ar y Cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro.”

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C yn gynharach, fe wnaeth cyn-arweinydd y cyngor, Alun Ffred Jones, alw ar yr awdurdod lleol i ymddiheuro gan ddweud ei fod "yn meddwl yn sicr fod gan y cyngor sir fel awdurdod addysg le i ymddiheuro am gamgymeriadau sydd yn amlwg wedi digwydd.  

“Mae yna gamgymeriadau wedi digwydd ar ran y cyngor ac mi fyddwn yn sicr yn meddwl byddai'n ddoeth ymddiheuro ar ran hynny ac mae yna bobl eraill yn nes at yr hyn oedd yn digwydd ac y byddwn i am glywed wrthyn nhw hefyd,” meddai Mr Jones.

'Dyletswydd ac angen' am ymchwiliad

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi siarad gyda nifer sy’n gysylltiedig â’r Cyngor sy’n codi amheuon am y modd ma’r awdurdod lleol a’r arweinyddiaeth wedi ymateb i’r sefyllfa. Maen nhw hefyd am weld ymddiheuriad gan y Cyngor i’r dioddefwyr.

Mae'r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts yn dweud bod yna 'ddyletswydd ac angen' ar Gyngor Gwynedd i gynnal ymchwiliad annibynnol o'u prosesau diogelu plant ar fyrder er mwyn adfer hyder y cyhoedd. 

Wrth ymateb, dywedodd Dyfrig Siencyn fod “adroddiadau annibynnol wedi digwydd ac mi fyddwn ni yn edrych yn eitha buan yn ein cyfarfodydd cabinet yr angen am unrhyw fath o ymchwiliad i unrhyw brosesau yn ein tyb ni sydd angen edrych arnyn nhw.”

Mi wrthododd Liz Saville-Roberts gefnogi arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd gan ddweud ei bod yn 'gresynu' bod Foden wedi cyflawni'r fath droseddau.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gamdrin 4 o blant rhwng 2019 a 2023. Fe ddatgelodd rhaglen Wales Investigates honiadau pellach am Foden a’i bod yn bosib fod y pedoffeil wedi camdrin am dros 40 mlynedd.

Diogelu yn ‘flaenoriaeth allweddol'

Yn ystod achos Foden daeth i’r amlwg bod uwch aelod o staff wedi codi pryderon am agosrwydd Foden at rai merched yn eu harddegau yn 2019 – gan rybuddio ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.

Cafodd y pryder ei basio at Gyngor Gwynedd, ond cafodd penderfyniad ei wneud i beidio cynnal ymchwiliad ffurfiol. 

Yn ystod yr achos llys, mi ddywedodd Garem Jackson, cyn-bennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, ei fod wedi gadael i uwch swyddog diogelu wybod ond fod y swyddog wedi dweud nad oedd angen ymchwilio gan nad oedd honiadau swyddogol wedi eu gwneud. 

Mae BBC Cymru ar ddeall bod pedwar o weithwyr y cyngor yn rhan o’r penderfyniad i beidio ag ymchwilio. Mae tri yn dal i gael eu cyflogi yno. 

Mae Mr Jackson wedi dweud fod diogelu yn ‘flaenoriaeth allweddol’ a’i fod yn arfer trafod efo’r swyddog priodol a dilyn eu cyngor nhw os oedd pryderon yn cael eu codi.

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i’w dysgu.

Ond mae nifer yn poeni fod adolygiad o’r fath yn gyfyng ac mae yna alwadau pellach am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau Cyngor Gwynedd.

Mae grŵp cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth, yr aelodau o’r Senedd, Siân Gwenllïan a Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts yn cefnogi’r galwadau hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.