Cymru yn anelu am fuddugoliaeth yng Ngwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn parhau â'u hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener oddi cartref yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Wedi dechrau cadarnhaol i'r ymgyrch yn erbyn Twrci a Montenegro, fe fydd tîm Craig Bellamy yn gobeithio parhau â'r safon yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Wener a Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.
Gêm ddi-sgôr oedd gêm gyntaf Craig Bellamy fel rheolwr i Gymru yn erbyn Twrci ym mis Medi, ond llwyddodd Cymru i drechu Montenegro o 2-1 dridiau yn ddiweddarach.
Fe fydd Cymru ar frig Grŵp B os ydyn nhw'n llwyddo i guro yn Reykjavik nos Wener a bod Twrci yn gollwng pwyntiau yn erbyn Montenegro.
Mae Joe Allen yn dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers iddo ymddeol o bêl droed rhyngwladol y llynedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1844725147392950601
Bydd Rhys Norrington-Davies hefyd yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf am dros ddwy flynedd wedi iddo ddioddef anafiadau hirdymor.
Bydd David Brooks, Nathan Broadhead a Wes Burns hefyd yn rhan o garfan Cymru Craig Bellamy am y tro cyntaf wedi iddyn nhw fethu gemau’r fis diwethaf.
'Pennod newydd'
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd amddiffynnwr Cymru a Leeds Joe Rodon: "Mae hi wastad yn grêt i fod yn ôl, yn enwedig gyda phennod newydd yn digwydd.
"Dwi mor hapus i fod yn ôl gyda'r hogiau ac yn edrych ymlaen at y gemau sydd i ddod."
Ni fydd Ethan Ampadu yn chwarae yn y ddwy gêm, a hynny yn sgil anaf.
Ychwanegodd Rodon: "Mae pawb yn gwybod fod Ethan yn chwaraewr allweddol i ni, o safbwynt clwb a gwlad.
"Mae'n golled enfawr i ni ond y cwbl fedrwn ni wneud ydy dymuno'n dda iddo a gwellhad buan."
Bydd y gêm yn gael ei ddangos yn fyw ar S4C, gyda'r gic gyntaf am 19.45.