Achos Neil Foden: Angen i Gyngor Gwynedd ‘gwestiynu ei hunan’ medd AS

10/10/2024
Liz Savile Roberts a Neil Foden

Mae angen i Gyngor Gwynedd “gwestiynu ei hunan” a chomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i achos Neil Foden cyn gynted a bo modd, yn ôl Aelod Seneddol.

Dywedodd Liz Savile Roberts sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd bod yr achos wedi “taro hyder rhieni a’r cyhoedd yng Ngwynedd”.

Wrth gael ei holi a oedd ganddi hi hyder yn y cyngor, dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae hyn yn rhywbeth fedrwch chi ddim dweud yn y fan a’r lle, hyder neu ddiffyg hyder.

“Dwisho gweld y cyngor yn cwestiynu ei hunan, yn annibynnol, cyn gynted â phosib," meddai wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Ond mae rhaglen BBC Wales Investigates, 'My Headteacher the Paedophile'  wedi datgelu honiadau o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr. 

Wrth ymateb i'r rhaglen, dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ei fod "wedi fy ysgwyd a fy mrawychu" gan droseddau Foden.

Ychwanegodd: “Fel Cyngor, rydym hefyd wedi datgan yn glir y byddwn yn ymrwymo’n llwyr i bob ymchwiliad ac adolygiad sydd eu hangen yn sgil yr achos difrifol hwn gan mai ein blaenoriaeth yw sefydlu’r holl ffeithiau a gwersi i’w dysgu o hynny. 

“Os bydd ymchwiliadau eraill o unrhyw fath yn cael eu sefydlu, byddwn yn croesawu hynny ac yn cefnogi eu gwaith yn llawn.”

‘Gwahaniaeth sylfaenol’

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynol Jan Pickles OBE.

Tra bod ganddi hyder yn yr adolygiad, dywedodd Liz Savile Roberts bod cynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynol yn hollbwysig er mwyn adfer hyder y cyhoedd.

“Yn wahanol i ymchwiliad cyhoeddus dydi bwrdd diogelu plant ddim yn gallu gorfodi tystion i ddod gerbron,” meddai wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

“Na chwaith eu bygwth nhw eu bod nhw’n torri'r gyfraith gyda perjury os dydyn nhw ddim yn rhoi tystiolaeth lawr a cywir.

“Dyna’r gwahaniaeth sylfaenol yn y grym sydd gan fwrdd diogelu plant.

“Dyna pam o’r cychwyn cyntaf mae nifer ohonom ni wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus y bydd angen i Lywodraeth Cymru dalu amdano fo.”

Ychwanegodd: “Mae yna ddyletswydd o ofal i blant gan Gyngor Gwynedd yn y sir rŵan hyn.

“Mae’r holl achos wedi taro hyder rhieni a’r cyhoedd yng Ngwynedd.

“Rydw i’n galw ar - ac mae aelodau yn y grŵp hefyd yn cyd-weld â hyn - dwi’n galw ar gyngor Gwynedd i gomisiynu adolygiad annibynnol.

“Dw i’n gwybod bod grŵp y cynghorwyr yn teimlo'r un fath.”

Ychwanegodd: “Dwisho gwneud yn siŵr bod y cyngor ei hun yn gallu dangos bod o’n cymryd y prosesau ‘ma angen eu cymryd rŵan hyn.

“I ddangos bod y prosesau diogelu plant yn ddigonol yn Ysgol Friars ac ysgolion eraill y sir.

“Dwisho gweld y cyngor yn cymryd y camau hynny a cyn gweithredu drwy gomisiynu adolygiad annibynnol i brofi hynny, i sicrhau'r hyder hynny gan y cyhoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.