Newyddion S4C

Bethan Gwanas yn derbyn gwobr am ei 'chyfraniad rhagorol' i lenyddiaeth plant

09/10/2024
Bethan Gwanas

Mae'r awdures Bethan Gwanas wedi derbyn yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru.

Mewn cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru bod y wobr wedi ei rhoi er mwyn dathlu ei "chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc."

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno bob tair blynedd gan y Cyngor Llyfrau er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant.

Cyn cael llwyddiant fel awdur, bu Bethan Gwanas yn gweithio fel athrawes. 

Roedd hi hefyd yn ddirprwy bennaeth yng Nghanolfan yr Urdd Glan-llyn, ger Y Bala, a hefyd yn gynorthwyydd ymchwil a chynhyrchydd ar Radio Cymru.

Rhoddodd y gorau i'w swydd fel hyrwyddwr llenyddiaeth gyda Chyngor Gwynedd yn 2003 er mwyn canolbwyntio'n llawn amser ar ei hysgrifennu.

Ers hynny mae hi wedi nifer fawr o gyhoeddiadau i blant, pobl ifanc a dysgwyr y Gymraeg.

Llun: Y Lolfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.