Galw am heddwch flwyddyn ers ymosodiadau Hamas ar Israel
Galw am heddwch flwyddyn ers ymosodiadau Hamas ar Israel
"Occupation no more!"
Mae'n olygfa gyfarwydd ar sawl stryd mewn sawl rhan o Gymru. Flwyddyn ers ymosodiadau Hamas ar Israel mae'r galw am heddwch mor gryf ag erioed.
Blwyddyn hefyd a welodd filoedd o drigolion Gaza yn cael eu lladd gan fomiau Israel.
"Mae cymaint o bobl wedi cael eu lladd gan Israel. Mae'n amlwg bod hil-laddiad yn digwydd. 40,000 wedi cael eu lladd, dros 15,000 o blant mae'n rhaid i hynny stopio rhywbryd, pam ddim nawr?"
Ar sawl ffin bellach mae'r brwydro yn ffyrnigo ar ôl Iran yn dwysau. Nôl yma yng Nghymru, mae rhai sydd â theulu yn Iran yn teimlo bod ymateb llywodraeth Israel wedi mynd yn rhy bell.
"Mae teulu fi yn Iran yn bryderus iawn achos 'dan ni gyd yn gwybod faint mor beryglus ydy llywodraeth Israel. Pan maen nhw'n deud bod nhw'n mynd i wneud rhywbeth, mi wnawn nhw a'r ffaith bod o 'di mynd 'mlaen am flwyddyn a dros 40,000 a lot o blant wedi cael eu llofruddio gan Israel."
Yma ym Mangor fel sawl cymuned Cymru mae 'na brotestio wedi bod yn erbyn ymateb, medde rhai, llawdrwm Benjamin Netanyahu.
Er bod y brwydro yn y Dwyrain Canol yn teimlo'n bell i ffwrdd mae'n glir bod teuluoedd nôl yma wedi'w hysgwyd. Flwyddyn yn ôl cyrhaeddodd y newyddion am ymosodiadau Hamas lannau Cymru ac fel y bore hwnnw, mae Susan heddiw yn treulio amser yn siarad â theulu a ffrindiau yn Israel.
"People are angry. People are angry."
Y sefyllfa yn ôl ei ffrind, Margaret, yn Tel Aviv yn mynd o ddrwg i waeth.
"Some days there's 150 missiles from the north."
A Susan yn poeni am ei mab sy'n aelod o fyddin Israel a'i merched sy'n byw yno o hyd.
"Oedd o'n ddychrynllyd meddwl bod bron iawn mab fi a dwy ferch a grandchildren fi i gyd yn involved achos maen nhw'n byw 10 milltir o Gaza, dyna'r oll.
"They were next in line."
Be wnewch chi o'r safbwynt bod ymateb Israel yn rhy llawdrwm a bod 'na bobl ddiniwed yn Gaza a Libanus yn marw'n ddiangen?
"Wrth gwrs dw i'm isio neb diniwed gael eu lladd, dim plant na pherson. Dw i'n cytuno bod pethau wedi mynd dros ben llestri a mae llawer o Israeliaid ddim isio i'r rhyfel barhau.
"Fuasai hyn 'di gallu stopio mewn instant tasen nhw yn gadael yr hostages ddod adre. Mae 'na dros 100 ohonyn nhw dal yn Gaza. Dy'n nhw ddim yn gadael iddyn nhw ddod adre."
Mae llonyddwch traethau Llŷn yn teimlo yn bell o'r brwydro. Wrth i'r gwrthdaro dwysau mae teuluoedd yng Nghymru yn poeni am anwyliaid ar draws y Dwyrain Canol.