Dathlu 20 mlynedd ers sefydlu Parkrun
07/10/2024
Dathlu 20 mlynedd ers sefydlu Parkrun
"Three, two, one, go!"
Ers 20 mlynedd, mae pobl o bob oed, a phob gallu wedi rhedeg Parkruns.
Mae'r nod yn syml, cwblhau cwrs pum cilomedr, sydd tua tair milltir.
"Mae'r Parkrun yn ddigwyddiad sy'n ased gymunedol.
"Mae'n fwy na digwyddiad rhedeg ac yn dod â phobl at ei gilydd o ran gwirfoddolwyr, pobl sy'n rhedeg a rhai sy'n cerdded.
"Mae'n rhywbeth ar gyfer iechyd corfforol a iechyd meddyliol.
"Mae am ddim ac yn dod a phobl at ei gilydd bob bore dydd Sadwrn ac ar ddydd Sul ar gyfer y plant ieuengach."
"Mae'r Parkrun yn rhan mawr iawn o fy mywyd.
"Dw i wedi bod yn gwneud Parkrun ers 12 blwyddyn.
"Dw i'n troi i fyny bob bore dydd Sadwrn ac mae pawb yn gallu gwneud e."
Yn Llundain oedd y ras gyntaf yn 2004.
Pedair mlynedd yn ddiweddarach cafodd y Parkrun cyntaf yng Nghymru ei gynnal yng Nghaerdydd.
Bellach, mae pum ras wahanol yn y brifddinas a dros 80 o Parkruns a Junior Parkruns ar draws Cymru.
"Pan ti 'di neud 11, ti'n cael un glas sy'n half marathon.
"Nes ymlaen, os ti'n rili trio, ti'n gallu un 100 Junior Parkrun."
I Gruff sy'n 10 a Llywelyn sy'n saith mae'r ras i blant yn rhan fawr o'u bywydau gyda'r ddau wedi rhedeg dros 100 ras yr un.
"Mae cymryd rhan yn rili bwysig ac yn cadw fi'n ffit ar ddydd Sul a dw i'n hoffi e!
"Even os ti ddim yn rhedeg yn gyflym, mae dal yn neis achos ti'n cael hwyl efo ffrindiau.
"Mae'n dim ond 2K hefyd sy ddim yn bell iawn i redeg."
"Wnes i jyst cael mewn iddo.
"Pan ti'n dechrau gwneud rhywbeth ac yn meddwl "Dw i'n hoffi hwnna."
Gyda dros naw miliwn o redwyr wedi cofrestru ar draws y byd y gobaith ydy y bydd y Parkrun yn parhau i dyfu ac yn ysbrydoli mwy i fynd i redeg un cam ar y tro.