Cefnogwr rygbi wedi marw yn dilyn ‘argyfwng meddygol’ cyn gêm yng Nghasnewydd
Mae cefnogwr rygbi wedi marw yn dilyn “argyfwng meddygol” cyn gêm y Dreigiau yn erbyn y Sharks ar faes Rodney Parade nos Sadwrn.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd clwb y Dreigiau eu bod nhw yn “drist iawn o glywed am farwolaeth drasig cefnogwr yn dilyn argyfwng meddygol y tu allan i Rodney Parade cyn y gêm gyda’r Sharks ddydd Sadwrn”.
Dywedodd y clwb eu bod nhw wedi cysylltu â theulu’r cefnogwr i gydymdeimlo â nhw.
Ychwanegodd y clwb eu bod nhw nawr “yn gofyn iddynt gael preifatrwydd i alaru”.
Inline Tweet: https://twitter.com/dragonsrfc/status/1842867137804739063