Newyddion S4C

Diwedd ar rai o gyfyngiadau Covid-19 yn yr Alban

The Scotsman 13/07/2021
Dynes yn cerdded ar strydoedd Caeredin

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach o 19 Gorffennaf, wrth i’r wlad symud i rybudd lefel sero.

Dywed The Scotsman mai dyma’r tro cyntaf i’r holl wlad fod dan yr un cyfyngiadau ers Medi 2020.

Fel rhan o’r newidiadau, bydd Albanwyr yn cael cwrdd â 10 pherson o bedwar aelwyd wahanol mewn man cyhoeddus, gydag wyth person o 4 aelwyd yn cael cwrdd mewn cartrefi.

Bydd y cyrffyw ar gyfer lletygarwch dan do yn symud i hanner nos, yn hytrach nag 23:00, ac mae’r cyngor yn parhau i weithio gartref pan mae hynny’n bosib.

Yn wahanol i Loegr, ni fydd y gofyniad gorfodol ar wisgo gorchuddion wyneb yn dod i ben yn yr Alban am y tro, meddai Nicola Sturgeon.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Yn fy marn i, os yw'r llywodraeth yn credu bod mesurau fel hyn yn bwysig - ac rydym yn - dylem ddweud hynny, gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth, a chymryd unrhyw feirniadaeth gan y rheiny sy’n anghytuno.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.