Dysgu'r iaith wrth ffurfio band Cymraeg
Dysgu'r iaith wrth ffurfio band Cymraeg
Mae creu cerddoriaeth yn Gymraeg yn “hollbwysig” i fand newydd o Sir Gâr, a hynny am reswm arbennig.
Mae’r rhan fwyaf o aelodau band Merched Becca yn siaradwyr newydd y Gymraeg, wedi iddyn nhw gael eu haddysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Ond ar ôl cyfarfod yng nghlwb Cymraeg Ysgol Bryngwyn, Llanelli mae’r saith o gerddorion ifanc yn dweud bod perfformio yn yr iaith wedi “agor drysau” iddyn nhw.
Aelodau'r band yw'r prif leisydd Amy, 16 oed, y gitarydd Lawson, 16 oed, y gitarydd arall Evan, 15 oed, Finley, 15 oed sy’n chwarae’r drymiau, Cerys, 16 oed sy’n chwarae'r trwmped, Carrie, 16 oed sy’n chwarae'r sacsoffôn a Jaque, 15 oed sy’n chwarae’r allweddellau.
Ac mae’r cyfleoedd y maen nhw wedi eu cael hyd yn hyn hefyd wedi eu hannog i ddysgu mwy o Gymraeg, meddai’r prif leisydd, Amy.
“Mae gwneud hyn drwy’r Gymraeg yn bendant wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio’r iaith yn lot fwy aml, ac mae rili wedi helpu fi ddysgu geiriau newydd hefyd," meddai.
'Rhan ohonof i'
Fe lwyddodd Merched Becca i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Sŵn Sir Gar y llynedd, gan ennill y cyfle i fod yn rhan o weithdy gyda’r cerddor Mei Gwynedd.
Maen nhw bellach wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, Siarad Fel Fi.
Dywedodd y gitarydd, Lawson ei fod yn mwynhau perfformio yn y Gymraeg “oherwydd mae’n rhan o pwy dw i ".
Mae bod yn rhan o’r band hefyd wedi bod yn gyfle iddyn nhw gysylltu gyda’r diwylliant a’u hunaniaeth, esboniodd Carrie sy’n chwarae’r sacsoffon.
A hithau’n wreiddiol o’r Alban, dywedodd: “Mae wedi rhoi’r cyfle i fi fynegi'r elfen Gymreig o fy niwylliant yn ogystal â’r elfen Albanaidd.
“Mae’n braf gallu profi hynny."
'Ymrwymo'
Derek Rees, swyddog datblygu tref Llanelli gyda Menter Cwm Gwendraeth Elli gysylltodd â'r band i roi gwybod iddyn nhw am gystadleuaeth Sŵn Sir Gar.
Mae’n dweud ei bod yn hollbwysig apelio at siaradwyr di-Gymraeg a dysgwyr er mwyn hybu’r iaith yn lleol.
“Be’ fi ‘di gweld yn fwy nag unrhyw beth yw wrth i rhein cymryd rhan mewn gigs Cymraeg a dod mewn i’r byd Cymraeg, mae diddordeb nhw yn y Gymraeg a’u brwdfrydedd dros ddysgu mwy, wedi codi gymaint," meddai.
“Mae’n rili braf i cael gweld nhw yn mynd ati i ddysgu mwy a mwy."
Mae’r band bellach wedi ymrwymo i ddysgu mwy o Gymraeg, a hynny’n “profi ein bod yn falch o fod yn Gymraeg,” meddai’r gitarydd Evan.