
Cadw plant o'r ysgol er mwyn osgoi hunan-ynysu cyn gwyliau teuluol

Cadw plant o'r ysgol er mwyn osgoi hunan-ynysu cyn gwyliau teuluol
Mae Heddwen Williams wedi penderfynu cadw ei phlant o'r ysgol yr wythnos yma i osgoi'r risg o orfod hunan-ynysu cyn gwyliau teuluol yr wythnos nesaf.
"Nathom ni benderfynu felly bo ni'n cadw'r plant adref am gyfnod er mwyn lleihau'r risg," eglura'r fam i dri wrth raglen Newyddion S4C.
Dydy Mrs Williams ddim yn poeni'n ormodol am effaith bosib yr absenoldeb ar addysg ei phlant.
"Dyma'r wythnos olaf cyn yr haf a dwi'n gwybod bod pethau'n dechrau tawelu.
"Dwi di siarad efo cwpl o rieni dros y penwythnos sy' di deud bo fi'n lwcus bo ni'n gallu gwneud o, a dwi yn cytuno efo hynna.
"Ma'n ngŵr i'n gweithio shifftiau, ma’ gen i Mam a Dad sy' di gallu helpu i warchod, lle ma' 'na rai teuluoedd eisiau neud yr un penderfyniad, ond bo nhw ddim di gallu neud oherwydd bo gennom nhw neb i helpu nhw allan."

Gyda'r gobaith o fynd ar wyliau wythnos nesaf bydd y plant hefyd yn methu gweithgareddau ar ôl ysgol.
"Nid yn unig colli'r ysgol, 'ma nhw'n colli mynd i sesiynau pêl-droed, i côr, da ni'n tynnu bob dim allan jyst er mwyn lleihau'r risg yna.
"Gan obeithio fyddwn ni yn gallu parhau i fynd ar ein gwyliau wythnos nesaf."