Newyddion S4C

Angharad James wedi’i phenodi’n gapten newydd Cymru

04/10/2024
Angharad James

Mae Angharad James wedi’i phenodi’n gapten newydd Cymru, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

James, a anwyd yn Arberth yn Sir Benfro, oedd un o’r pedwar chwaraewr i fod yn gapten ar hyd ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2025 ar ôl i Sophie Ingle benderfynu camu i lawr.

Mae hi bellach wedi derbyn y rôl yn yr hirdymor gan y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson. 

Wrth siarad am ei hapwyntiad, dywedodd James mai “cynrychioli eich gwlad yw’r anrhydedd mwyaf gall chwaraewr ei gael".

"Mae cael fy mhenodi’n gapten yn foment hynod falch i mi a fy nheulu," meddai.

“Mae Sophie Ingle yn arweinydd anhygoel, ac rydw i wedi dysgu cymaint o’i hymroddiad a’i harweinyddiaeth fel capten dros y naw mlynedd diwethaf. 

"Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, ac mae’n anrhydedd mawr dilyn yn ôl ei thraed a’r capteiniaid a ddaeth o’i blaen hi. 

“Rydw i wedi siarad am y balchder o fod yn gapten pan rydw i wedi cael y cyfleoedd o’r blaen, ond rydyn ni’n ffodus i gael cymaint o arweinwyr yn y grŵp hwn. 

“Mae cael arweinwyr ar lefelau gwahanol yn y garfan yn hanfodol, a gyda’n gilydd, byddwn yn gwthio tuag at ein nod cyfunol o gyrraedd twrnamaint mawr am y tro gyntaf.” 

'Angerdd'

Mae’r canolwr wedi bod yn gapten ar dri achlysur yn barod  ar ôl bod yn gapten ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn UDA ym mis Gorffennaf 2023 cyn arwain Cymru yn y gemau rhagbrofol UEFA EURO 2025 yn erbyn Wcráin a Kosovo ym Mharc y Scarlets. 

Mae James yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl gan ei bod wedi ennill 122 cap dros Gymru ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Hydref 2011. 

Mae’r amddiffynnwr Hayley Ladd a’r canolwr Ceri Holland wedi cael eu henwi’n is-gapteiniaid Cymru. 

Ychwanegodd y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson: “Mae Angharad wedi bod yn berfformiwr cyson i’r tîm hwn am flynyddoedd, ac mae hynny’n cael ei grynhoi gan nifer y gemau y mae wedi’u chwarae. 

“Mae ei hangerdd a’i hymrwymiad i’w gwlad yn amlwg ac er nad hi o reidrwydd yw’r arweinydd mwyaf lleisiol, mae hi bob amser yn mynnu ac yn cynnig cyngor i’w chyd-chwaraewyr pan fydd hi’n camu ar y cae. 

“Rwy’n caru’r ffordd mae hi’n cofleidio’r chwaraewyr iau yn y garfan gyda’i harweinyddiaeth hefyd, sy’n bwysig ar gyfer dyfodol y tîm a’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd."

Llun gan Chris Fairweather/Huw Evans Agency.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.