Newyddion S4C

Mam efeilliaid fu farw mewn tân yn euog o ddynladdiad

03/10/2024
Deveca Rose

Mae mam i bedwar o fechgyn ifanc fu farw mewn tân wedi ei chael yn euog o ddynladdiad.

Bu farw’r ddau set o efeilliaid – Bryson a Kyson, oedd yn bedair oed, a Leyton a Logan, oedd yn dair oed – ar 16 Rhagfyr 2021. 

Roedd eu mam, Deveca Rose, 30 oed, wedi eu gadael nhw adref ar eu pennau eu hunain i fynd i Sainsbury’s pan ddechreuodd tân yn eu tŷ teras yn Sutton, yn ne Llundain, a achoswyd gan sigarét neu gannwyll.

Fe gafwyd Mr Rose yn euog o bedair achos o ddynladdiad ond yn ddieuog o un achos o greulondeb at blant. Roedd Mr Rose wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn. 

Dywedodd y Barnwr Mark Lucraft KC fod yr achos yn un “trasig” wrth iddo bennu dyddiad o 15 Tachwedd i'w dedfrydu a chaniatáu mechnïaeth.

Dywedodd teulu'r bechgyn mewn datganiad: “Fe gafodd Bryson, Kyson, Leyton a Logan eu gadael ar eu pennau hunain gan eu mam, Deveca Rose, a heddiw, mae hi wedi ei chael yn euog o achosi eu marwolaethau. 

“Mi fydd ein teulu nawr yn treulio amser i wella a gadael i’r bechgyn orffwys.” 

'Amgylchynu gan sbwriel'

Roedd y fam sengl, oedd wedi gwahanu oddi wrth dad y bechgyn Dalton Hoath, yn byw yn y tŷ ynghanol sbwriel a charthion dynol.

Clywodd y llys bod Ms Rose hefyd yn byw â phroblemau iechyd meddwl. 

Roedd Dalton Hoath a’i nain Sally Johnson, sef hen-nain y bechgyn wedi dweud eu bod yn ymwybodol bod Ms Rose wedi gadael y bechgyn adref ar eu pennau hunain o’r blaen. 

'Jade'

Roedd Ms Rose wedi honni ei bod hi wedi gadael y plant gyda ffrind o’r enw ‘Jade’ oedd yn eu gwarchod nhw yn y tŷ ac fe aeth y diffoddwyr tân yn ôl i mewn i'r tŷ i chwilio amdani.

Ond dywedodd yr erlynydd nad oedd unrhyw arwydd o’r ffrind.

Roedd ymholiadau yn awgrymu bod ‘Jade’ naill ai ddim yn bodoli neu heb chwarae unrhyw ran yn nigwyddiadau’r noson honno.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Samantha Townsend, o Scotland Yard bod Mr Rose wedi ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb dros ei phlant a’r sefyllfa drwy “ddyfeisio stori”.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.