Newyddion S4C

Biliau ynni cartrefi yn cynyddu bron £150

01/10/2024
Hen bobl

Bydd biliau ynni cartrefi ar draws y Deyrnas Unedig yn cynyddu bron £150 ar gyfer y gaeaf wrth i'r rheolydd godi'r cap ar brisiau.

O ddydd Mawrth ymlaen, bydd cap pris ynni Ofgem yn codi i £1,717 – sef cynnydd o £149 o'r lefel flaenorol, sef £1,568.

Mae'r newid yn cyfateb i gynnydd o 10% a bydd yn ychwanegu £12 at y bil misol cyfartalog, yn ôl y rheolydd.

Er bod y term "cap pris ynni" yn cael ei ddefnyddio, nid oes cap ar yr hyn y gallwch ei dalu am ynni mewn gwirionedd.

Mae eich bil yn dal i fod yn seiliedig ar faint o nwy a thrydan rydych chi'n ei ddefnyddio, gan mai’r hyn y mae cap pris Ofgem yn ei wneud yw cyfyngu ar yr hyn yr ydych yn ei dalu am bob uned o nwy a thrydan yr ydych yn ei ddefnyddio. Felly os ydych chi'n defnyddio mwy, bydd yn rhaid i chi dalu mwy.

Bydd y cap pris mewn grym tan 31 Rhagfyr, ac ar 1 Ionawr bydd cap pris newydd yn cymryd ei le.

Bydd Ofgem yn cyhoeddi'r cap pris ynni nesaf ar 25 Tachwedd.

– Beth yw cap pris Ofgem?

Mae’r cap ar brisiau ynni yn gosod uchafswm pris y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am bob cilowat awr (kWh) o ynni y maent yn ei ddefnyddio.

Mae'r ffigurau gan Ofgem yn dangos yr hyn y gall cartref sy'n defnyddio nwy a thrydan, ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, ddisgwyl ei dalu os yw eu defnydd o ynni yn weddol gyffredin.

Os yw'r defnydd ynni mewn cartref yn uwch na’r cyfartaledd bydd y bil yn fwy, ac os yw’n is bydd yn llai.

– Pam fod y cap pris yn codi?

Dywedodd Ofgem mai’r prif reswm pam ei fod wedi penderfynu cynyddu’r cap yw oherwydd y cynnydd mewn prisiau yn y farchnad ynni ryngwladol, sydd wedi’u hachosi gan densiynau gwleidyddol uwch a thywydd eithafol.

Dywedodd Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem: “Mae prisiau nwy ryngwladol – y nwy rydyn ni’n ei brynu i wresogi ein cartrefi ac i wneud yn siŵr bod gennym ni’r trydan sydd ei angen – wedi codi, ac mae hynny’n bwydo drwodd i’n biliau.

“Yn y pen draw, tra ein bod ni’n ddibynnol ar nwy, fe fyddwn ni yn y sefyllfa yma lle mae prisiau’n codi i fyny ac i lawr.” 

– Beth allaf ei wneud i ostwng fy miliau?

Dywedodd Mr Brearley ei fod yn annog pobol i “siopa o gwmpas” i weld a allan nhw gael gwell bargen ar eu tariff ynni.

“Am y tro cyntaf ers amser maith, rydyn ni’n gweld rhai bargeinion da yn dod i’r amlwg,” meddai.

“Byddwn yn annog pobl i siopa o gwmpas ac ystyried dewis a oes tariff sy'n iawn i chi - mae opsiynau ar gael a allai arbed arian i chi, tra hefyd yn cynnig sicrwydd cyfradd na fydd yn newid am gyfnod penodol.”

Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com, y dylai pobl “gynilo trwy newid” eu cyflenwr ynni, ac ystyried tariff ynni pris sefydlog.

“Mae’r cynigion rhataf am flwyddyn o hyd ar y farchnad ar hyn o bryd tua 7% yn llai na chap pris newydd mis Hydref, ond efallai na fyddant o gwmpas yn hir,” meddai.

– Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?

Galwodd Ofgem ar bobl i wneud y gorau o unrhyw fudd-daliadau gwladol y mae ganddynt hawl iddynt, a allai helpu i dalu biliau ynni yn ogystal â chostau byw.

Mae tua 1.4 miliwn o bensiynwyr eisoes yn cael credyd pensiwn. Ond mae’r Llywodraeth yn amcangyfrif bod hyd at 880,000 o aelwydydd pellach yn gymwys i gael y cymorth ar gyfer y rheini sydd ar incwm isel.

Mae pobl sy'n derbyn credyd pensiwn yn gymwys i gael taliad tanwydd gaeaf gwerth hyd at £300, i helpu gyda'u biliau.

Yn flaenorol, gallai unrhyw un dros oedran pensiwn y wladwriaeth dderbyn y taliad, ond newidiwyd hyn gan y Llywodraeth newydd, gan olygu y bydd tua 10 miliwn o bensiynwyr ar eu colled eleni.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.