Newyddion S4C

Agor drysau un o adeiladau hanesyddol Caergybi i'r cyhoedd

28/09/2024
Alltran

Fe fydd adeilad hanesyddol ar Ynys Môn yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd yr wythnos nesaf.

Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud ar adeilad Plas Alltran yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mae'n adeilad rhestredig Gradd 2 sydd wedi ei drawsnewid o fod yn adfail gan Gyngor Môn.

Hen dŷ preifat o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Plas Alltran, ac mae'n "cyfrannu'n sylweddol at gymeriad Caergybi" medd Cadw.

Wedi ei adeiladu yn yr arddull gothig, fe'i comisiynwyd gan Jane Henrietta Adeane O.B.E ym 1890-1891 fel rhan o'i hailddatblygiad o ardal Blackbridge. 

Adeiladwyd Plas Alltran yn wreiddiol fel meddygfa a thŷ.

Mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel post cymorth cyntaf, cegin gawl, cartref ymadfer ar gyfer dioddefwyr twbercwlosis, ac yn ddiweddarach fel tŷ preswyl. 

Bellach mae pedwar fflat cymdeithasol fforddiadwy o fewn yr adeilad.

Fe fydd modd i'r cyhoedd gael cip ar yr adeilad ddydd Llun, 30 Medi rhwng 10:00 a 14:00.

Nid oes angen archebu tocynnau o flaen llaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.