Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw i rannau o Gymru ddydd Sul.
Fe fydd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym o 09:00 tan 23:59.
Bydd y rhybudd am law yn dod i rym am 16:00 ac yn parhau tan 09:00 fore Llun.
Mae posibilrwydd y gallai gwyntoedd cryfion achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio fod perygl i ffyrdd a chymunedau arfordirol gael eu heffeithio gan donnau mawr.
Gall y tywydd effeithio ar gyflenwadau pŵer mewn rhai ardaloedd hefyd am gyfnod byr yn ôl y swyddfa.
Dywed y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i'r gwyntoedd ostegu ar draws Cymru erbyn nos Sul.
Fe fydd y rhybudd am wyntoedd cryfion yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Sir Gâr
- Gwynedd
- Sir Benfro
- Rhondda Cynon Taf
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Ceredigion
- Castell-nedd Port Talbot
- Powys
- Abertawe
Fe fydd y rhybudd am law yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Gâr
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Powys
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen