Newyddion S4C

'Anghenfil': Partner Nicola Bulley'n beirniadu'r cyfryngau cymdeithasol

27/09/2024
Nicola Bulley

Mae partner Nicola Bulley wedi dweud bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn "anghenfil" yn dilyn ei diflaniad.

Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr 2023 wrth fynd â'i chi am dro ar lan afon ym mhentref St Michael's on Wyre yn Sir Gaerhirfryn.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod yn Afon Wyre ar 19 Chwefror yn dilyn ymdrech chwilio enfawr gan yr heddlu. 

Ond fe wnaeth yr ymdrech 23 diwrnod ysgogi nifer o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol i bwyntio'r bys at ei phartner, Paul Ansell.

Wrth siarad ar raglen ddogfen newydd gan y BBC, dywedodd Mr Ansell ei fod wedi gorfod rhoi'r gorau i'r cyfryngau cymdeithasol ar ôl cael ei gamdrin.

"Nid oedd [y cyfryngau cymdeithasol] yn rhan enfawr o'n bywydau. Ond pan fyddwch chi'n profi rhywbeth fel hyn, rydych chi'n sylweddoli ei fod yn gallu bod yn anghenfil enfawr," meddai.

Image
Paul Ansell / BBC
Roedd nifer o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol wedi cyhuddo Paul Ansell ar gam o ladd ei bartner (Llun: BBC)

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n cael negeseuon gan bobl nad ydw i erioed wedi cwrdd â nhw. Dydyn nhw ddim yn fy adnabod i, dydyn nhw ddim yn ein hadnabod ni, dydyn nhw ddim yn adnabod Nikki. Dydyn nhw ddim yn gwybod dim amdanon ni.

"Negeseuon fel 'rydych chi'n b******'. 'Rydym yn gwybod beth wnaethoch chi'. 'Ni allwch guddio, Paul', y math yna o bethau. 

"Roeddwn yn teimlo fel ateb rhai ohonyn nhw, ond yna os byddwch chi'n ymateb iddyn nhw, byddan nhw'n tynnu llun sgrin o'ch ateb a'i roi ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly rydych chi'n cael eich tawelu, ac ni allwch chi wneud dim byd am y peth."

Fe wnaeth crwner ddod i'r casgliad bod Ms Bulley wedi marw'n ddamweiniol, a doedd hi ddim wedi bwriadu dod â'i bywyd i ben.

Wrth gloi'r cwest ym mis Mehefin 2023, daeth Dr James Adeley i'r casgliad ei bod hi wedi boddi ar ôl "disgyn i mewn i ddŵr oer" yn Afon Wyre.

Ar y pryd roedd yr heddlu wedi cyhuddo rhai defnyddwyr TikTok o “chwarae rôl ditectifs preifat” yn yr ardal leol.

Bydd rhaglen The Search for Nicola Bulley yn cael ei darlledu ar BBC1 yr wythnos nesaf.

 

 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.